Cystadleuwyr 2012: Nicole Cooke

  • Cyhoeddwyd
Nicole CookeFfynhonnell y llun, Getty Images

Seiclo ar y ffordd

Ganwyd: 13/4/83

Dim ond yn 2002 y gwnaeth Nicole Cooke droi'n broffesiynnol, ond erbyn 2003 roedd wedi ennill Cwpan y Byd a gorffen yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Byd.

Yn ei Gemau Olympaidd cyntaf yn 2004, daeth yn bumed yn ras ffordd y merched - arwydd o'r llwyddiant i ddod.

Torrodd pont ei hysgwydd yn 2005, ond fe ddaeth blwyddyn arall wych iddi yn 2006 gan gipio'r fedal efydd yn Gemau'r Gymanwlad a gorffen y tymor ar frig rhestr detholion y byd.

Ond 2008 oedd ei blwyddyn fwyaf. Yn ogystal a chipio'r fedal aur am ras ffordd y merched yn y Gemau Olympaidd yn Beijing, enillodd Bencampwriaeth y Byd hefyd.

Mae hi hefyd wedi ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn gan BBC Cymru.

Er hynny bu'r ddwy flynedd ddiwethaf yn rhai anodd, ac er bod Nicole Cooke wedi ei henwi yng ngharfan Team GB ar gyfer Llundain 2012, does dim sicrwydd eto mai hi fydd yn arwain y tîm yn y ras ffordd.