Llawysgrif cyfraith Hywel Dda ar werth
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r llawysgrifau cyntaf i gael ei hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, sydd werth rhwng £500,000 a £700,000, yn cael ei harwerthu yn Llundain.
Credir bod y llyfr o'r 14eg Ganrif, Cyfraith Hywel Dda, wedi cael ei gludo i America gan ymfudwyr o Gymru yn y 18fed Ganrif.
Dywedodd yr arwerthwyr Sothebys fod y llyfryn wedi dychwelyd i Brydain am y tro cyntaf ers o leiaf 150 mlynedd.
Y gwerthwyr yw Cymdeithas Hanesyddol Massachusetts yn Boston.
Dim cosb i ladrata
Daeth Hywel Dda yn frenin Seisyllwg - sef ardaloedd Ceredigion a Chaerfyrddin erbyn hyn, yn y flwyddyn 900.
Aeth ati i reoli Gwynedd a Phowys.
Erbyn ei farwolaeth yn 949 roedd cyfran fawr o Gymru wedi ei uno o dan un brenin.
Aeth ati i ddiwygio'r arferion a'r cyfreithiau o wahanol ranbarthau Cymru a'u trawsffurfio'n un gyfraith.
Mae llawer o'r cyfreithiau yn cael eu hystyried yn oleuedig iawn am y cyfnod.
Er enghraifft, roedd priodas yn cael ei ystyried yn gytundeb, nid yn sacrament crefyddol a chaniatawyd ysgariad trwy gytundeb y ddau barti.
Roedd y fenyw'n cael y flaenoriaeth mewn achos o dreisio.
Doedd dim cosb i ladrata - dim ond os mai unig bwrpas y lladrad oedd goroesi.
Dywedodd y Dr Tim Bolton, arbenigwr mewn llawysgrifau canol oesol, mai hwn oedd y llyfryn cyntaf o'i fath i gael ei arwerthu ers bron i ganrif.
Diflannu
Ychwanegodd fod y llyfryn yn un ddirodres ar gyfer cyfreithiwr o'r canol oesoedd.
"Hwn yw'r testun sy'n ganolog i hunaniaeth Gymreig a'r berthynas dymhestlog rhwng Cymru a Lloegr yn y cyfnod hwnnw," meddai.
"Rwy'n credu bod tua 60 copi o Gyfraith Hywel Dda, sy'n dyddio nôl i'r canol oesoedd, yn dal i fodoli.
"Er hynny dim ond darnau o'r gyfraith gafodd ei chyhoeddi cyn 1250 sydd wedi goroesi."
Dywedodd Dr Bolton fod gan y llyfryn sy'n cael ei arwerthu hanes diddorol.
"Y cofnod cyntaf o'r llyfryn yw pan oedd yn rhan o lyfrgell y bargyfreithiwr o Aberhonddu, William Phillips, fu farw yn 1721," meddai.
"Cafodd ei weld yno gan yr hynafiaethydd, Edward Lhuyd a William Wooton.
"Rydym yn gwybod bod merch William Phillips, Anne, wedi etifeddu ei lyfrgell a bod ei gŵr, William Scourfield wedi etifeddu'r llyfr wedi iddi hi farw.
"Roedd aelodau o'r teulu Scourfield ymysg aelodau cyntaf y gymuned Gymreig yn Pennsylvania ac mae'n bosib fod un o'r teulu hwnnw wedi cludo'r llyfryn i America.
Dywedodd Dr Bolton ei fod yn gobeithio y byddai'r llyfryn yn dychwelyd i Gymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2012