John Hartson yn hybu ymgyrch ganser 'hollbwysig'

  • Cyhoeddwyd
John HartsonFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Dywed John Hartson mai ychydig iawn o ymwybyddiaeth oedd yna o ganser y gaill pan oedd o'n ifanc

Bydd y cyn-bêl-droediwr John Hartson yn lansio ymgyrch newydd ddydd Mawrth i hybu ymwybyddiaeth bechgyn o ganser y ceilliau.

Mae'r ymgyrch yn targedu bechgyn 15 oed a bydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad yn Ysgol Gyfun y Coed Duon, Caerffili.

Bu disgyblion yr ysgol yn helpu i lunio'r ymgyrch o'r dechrau.

Mae cynllun Ysgolion Iach Cyngor Caerffili wedi cydweithio gyda Sefydliad John Hartson ac Ymddiriedolaeth Iechyd Felindre i gynhyrchu DVD addysgiadol a phecyn dysgu, fydd yn cael eu defnyddio mewn ysgolion.

Mae'r DVD - y cynta' o'i fath yng Nghymru mae'n debyg - yn cynnwys John Hartson yn adrodd ei stori am ei frwydr bersonol yn erbyn canser y ceilliau.

Mae'r Dr Jim Barber, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol gydag Ymddiriedolaeth Iechyd Felindre, hefyd yn trafod yr arwyddion a'r symptomau i edrych allan amdanyn nhw.

'Embaras ac ofn'

"Ychydig iawn o ymwybyddiaeth oedd 'na o faterion pwysig fel hyn pan o'n i yn yr ysgol, a chefais gais gan Gyngor Caerffili i fod yn rhan o'r ymgyrch hon i godi ymwybyddiaeth o ganser y ceilliau ac roeddwn i'n awyddus iawn i wneud," meddai John Hartson.

"Rwy'n credu'n gryf fod dysgu plant ifanc ynglŷn â'r arwyddion a'r symptomau, ynghyd â'r ddealltwriaeth fod angen gweithredu os oes rhywbeth o'i le.

"Does dim angen teimlo embaras nac ofn wrth ofyn am gyngor meddygol, yn hollbwysig wrth daclo'r salwch yma."

Yn ôl y Cynghorydd Rhiannon Passmore o Gyngor Caerffili: "Mae mor bwysig fod ein hieuenctid yn cael dysgu am yr arwyddion a'r symptomau a bydd yr ymgyrch wych hon yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol iddynt.

"Wrth gael rhywun â phroffil mor amlwg â John Hartson i ymuno â'r ymgyrch - rhywun sydd wedi diodde' o'r salwch ei hun ac wedi dod drwyddi - rwy'n hyderus y bydd pobl ifanc yn cymryd sylw o negeseuon hanfodol yr ymgyrch, allai achub bywydau yn y pen draw."