Eisteddfod Llangollen yn lansio Llanfest
- Cyhoeddwyd

Bydd offerynwyr, bandiau a dawnswyr yn yr 'ŵyl o fewn gŵyl'
Eleni, am y tro cyntaf, bydd Eisteddfod Llangollen yn arddangos doniau gorau'r ardal leol mewn gŵyl o fewn gŵyl.
Bydd LlanFEST yn dangos amrywiaeth o gerddoriaeth a dawns gan berfformwyr lleol ar brynhawn olaf Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Dywedodd trefnydd LlanFEST, Barrie Roberts: "Mae cynrychiolwyr o bob cwr o'r byd yn dod i Langollen am wythnos pob blwyddyn i arddangos eu doniau creadigol.
"Sefydlu LlanFEST yw'r ffordd orau o roi blas i weddill y byd o'r dalent sydd gennym ni ei gynnig yn lleol."
Un o'r grwpiau fydd yn cymryd rhan yw Band Chwythbrennau Cymunedol Ysgol Dinas Brân.
Cynllun cymunedol sydd â 60 aelod rhwng 10-12+ oed, y mwyafrif o Ysgol Dinas Bran, yw'r band, sydd yn perfformio rhaglen amrywiol o Holst i Lady Gaga.

Mae'r eisteddfod ryngwladol yn denu cystadleuwyr o bob cwr o'r byd
Ymhlith yr offerynwyr eraill fydd yn perfformio mae Harriet Earis, telynores Geltaidd.
Mae'r grwpiau fydd yn cymryd rhan yn cynnwys Subtheme, band egnïol pum aelod sy'n perfformio cyfuniad o ffync, disco a dawns, a Future Perfect, deuawd o ogledd Cymru sy'n chwarae cerddoriaeth electroneg.
Bydd Bethan Morgan, cantores o Langollen sydd wedi denu cynulleidfa eang ers symud i ddinas Birmingham, hefyd yn ymddangos.
Bydd y byd clasurol yn cael ei gynrychioli gan Gwmni Opera Llangollen.
Ffurfiwyd y cwmni yn 2010 ac mae'n cynnwys tua 15 aelod o berfformwyr profiadol sydd, ynghyd â'u Cyfarwyddwr Cerdd, Elen Mair Roberts, yn ceisio dod â blas theatrig i'r achlysur.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2012