Hwb ariannol o dros £3m i gynllun Pontio ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan arloesedd a chelfyddydol ym Mangor wedi cael hwb o £3,250,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae disgwyl i ganolfan Pontio fod ar agor yn 2014.
Fe fydd 'na "theatr hyblyg," lle i 450 o seddi, sinema, stiwdio a lle i 120 o seddi a gofod perfformio tu allan i'r ganolfan £44 miliwn.
Bydd yr adeilad ar hen safle Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor a Theatr Gwynedd. Arweinwyr y prosiect yw Prifysgol Bangor.
'Gwych'
"Mae'n newyddion gwych i Fangor, Cymru a'r tu hwnt," meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John Hughes.
"Bydd y gymuned ar ei hennill am fod hwb i fuddsoddi ac adfywio yn y gogledd.
"Mae'n manteisio ar sgiliau ac arbenigedd lleol i greu a chadw cannoedd o swyddi a chyfleoedd busnes ..."
Yn ôl y cyngor, fe fydd Pontio yn bwerdy diwylliannol ac economaidd i'r ddinas ac yn llwyfan addas i'r goreuon o'r cwmnïau lleol.
Bydd yn cynnal digwyddiadau artistig rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau dylunio rhyngddisgyblaethol ar gyfer cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newyddion.
Uchelgeisiol
Bydd y celfyddydau a'r gwyddorau yn cael eu dysgu er budd y gymuned, busnesau lleol a myfyrwyr y Brifysgol.
Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Buddsoddi ac Ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru, fod y prosiect yn uchelgeisiol.
"Mae ganddo bosibiliadau i greu lle ysbrydoledig i'r celfyddydau perfformio a digwyddiadau artistig syfrdanol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2012