'Gobeithiol' am ddyfodol coleg sydd â dyled o £2 miliwn
- Cyhoeddwyd
Fe fydd penaethiaid un o ysgolion preifat hynaf Cymru yn cyfarfod â rhieni i drafod dyledion o £2 filiwn.
Mae staff Coleg Llanymddyfri wedi cael gwybod na fyddan nhw'n cael eu talu am fis Mehefin a does dim sicrwydd pryd y byddan nhw'n cael eu talu.
Mae undeb yr athrawon, yr ATL, yn eithaf gobeithiol y bydd y Coleg yn medru datrys y sefyllfa.
Gobaith y coleg yn Sir Gaerfyrddin yw ad-drefnu'r ysgol gyda chefnogaeth newydd er mwyn dileu'r ddyled.
Dywedodd y warden, Guy Ayling a fydd yn cyfarfod rhieni gyda'r nos nos Sul, na fyddai'r coleg "yn bodoli" oni bai eu bod yn taclo'r broblem.
Fe fyddan nhw'n trafod eu cynlluniau ariannol ar gyfer ailstrwythuro.
Dywedodd Dr Philip Dixon o ATL Cymru, nad yw eisiau bod yn rhy hyderus oherwydd ei bod yn sefyllfa anodd ond bod yna sail ar gyfer datrys y sefyllfa.
'Datrys y sefyllfa'
Mae 'na adroddiadau meddai bod y coleg £15,000 y flwyddyn, yn mynd i allu dod drwy'r pryderon presennol.
Mae 'na tua 100 o staff yn y coleg ar gyfer 300 o ddisgyblion ac mae tua 40 o'r staff yn aelod o undeb ATL.
"Dwi'n obeithiol y bydd modd datrys y sefyllfa," meddai Dr Dixon.
"Dwi'n credu y bydd y coleg yn parhau ar agor ac y bydd nifer o swyddi yn cael eu hachub.
"Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn derbyn yr arian sy'n ddyledus a chynnal a chadw'r telerau presennol."
Mae Coleg Llanymddyfri yn gwmni preifat ac yn elusen gofrestredig sy'n cael ei redeg o dan arweiniad ymddiriedolwyr.
Cafodd ei sefydlu yn 1847.
Llai o ddisgyblion
Ymhlith cyn-ddisgyblion nodedig y mae Archesgobion Cymru a chwaraewyr rygbi fel Carwyn James a George North.
Pan gafodd y cyfrifon diweddaraf eu danfon y llynedd, cafodd ymddiriedolwyr yr ysgol rybudd fod trefniant banc yr ysgol yn debygol o fynd yn fwy na'r £1.55m dros y 12 mis nesaf, a'u bod yn gofyn am adnoddau pellach o hyd at £1.7m.
Dywedodd Mr Ayling, a gymrodd drosodd fel warden y coleg dri mis yn ôl, bod y ddyled wedi bod yn ymgasglu dros 10-15 mlynedd.
Ers 2007 mae'r coleg wedi wynebu gostyngiad o 9% yn nifer y disgyblion yn ogystal.
"Mae natur y sefyllfa wedi newid.
"Fyddai'r coleg ddim yn bodoli petai ni'n parhau o dan yr hen drefn.
"Mae angen newid radical.
"Fe fyddai cychwyn eto ar lechen lan yn wych ond o bosib yn afreal.
"Fe fydd 'na her ariannol o hyd o'n blaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2012