Ysgol breifat yn wynebu dyled o £2m

  • Cyhoeddwyd

Mae un o ysgolion preifat enwocaf Cymru yn wynebu trafferthion ariannol mawr.

Mae cyfrifon diweddaraf Coleg Llanymddyfri gan y Comisiwn Elusennau yn dangos bod gan yr ysgol ddyledion o fwy na £2 miliwn.

Dywedodd y prifathro Guy Ayling fod yna gynlluniau i ad-drefnu'r ysgol gyda chefnogaeth ariannol newydd.

Ond mae wedi dweud na fydd staff yn cael eu talu'r mis hwn.

Dyw hi ddim yn glir pa bryd y byddan nhw'n cael eu talu.

Ymhlith cyn ddisgyblion yr ysgol - a sefydlwyd yn 1847 - mae'r chwaraewr rygbi George North a'r canwr Rhydian Roberts.

300 o ddisgyblion

Mae gan yr ysgol breswyl dros 300 o ddisgyblion ac mae'n cyflogi 79 o staff.

Mae Coleg Llanymddyfri yn gwmni preifat ac yn elusen gofrestredig.

Pan gafodd y cyfrifon diweddaraf eu danfon y llynedd, cafodd ymddiriedolwyr yr ysgol rybudd fod trefniant banc yr ysgol yn debygol o fynd yn fwy na'r £1.55m dros y 12 mis nesaf, a'u bod yn gofyn am adnoddau pellach o hyd at £1.7m.

Rhybudd

Ond roedd rhybudd hefyd y byddai'r coleg yn debygol o fynd dros eu gorddrafft hyd yn oed pe bai'r Comisiwn Elusennau yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Ymhlith credydwyr yr ysgol mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Mae'r cyfrifon hefyd yn dweud bod yr ymddiriedolwyr wedi ystyried dechrau'r broses o droi'n fethdalwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol