Cystadleuwyr 2012: Dai Greene

  • Cyhoeddwyd
Dai GreeneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Dai Greene fod ymysg y medalau yn y Gemau Olympaidd yn Llundain 2012

Athletau - 400m dros y clwydi

Ganwyd: Ebrill 11, 1986

Gyda Greene, o Felinfoel ger Llanelli yn wreiddiol, eisoes wedi ennill pencampwriaethau'r Gymanwlad, Ewrop a'r Byd, dim ond medal aur Olympaidd sydd angen arno i gwblhau'r set cyfan.

Enillodd Bencampwriaeth y Byd yn Daegu, De Korea, yn 2011 mewn amser o 48.26 eiliad, ac mae ei amser gorau erioed o 47.84 yn agos iawn at record Prydain o 47.82 gan Kriss Akabusi.

Bellach mae ei deitl fel Pencampwr Ewrop wedi mynd i aelod arall o Team GB, y Cymro Rhys Williams.

Fel bachgen ifanc, roedd yn bêl-droediwr dawnus, ac fe gafodd gynnig cytundeb gyda chlwb Abertawe pan yn 16 oed, ond penderfynnod ganolbwyntio ar athletau.

Siom fwyaf?

Oherwydd anaf, ni lwyddodd Greene i fod yn rhan o'r tîm Olympaidd aeth i Beijing yn 2008.

Mae'n diodde' o'r cyflwr epilepsi, ond mae cyfundrefn ymarfer a bwyd ei fywyd fel athletwr yn gymorth i reoli'r clefyd.

Yn y coleg fe ysgrifennodd draethawd hir am y gwyddoniaeth y tu ôl i lwyddiant wrth redeg y ras dros y clwydi!