Tywysog Cymru'n dechrau ei daith haf yn Llanlewy

  • Cyhoeddwyd
Bu'r Tywysog Charles a Duges Cernyw yn siarad â'r dorf yn Llanelwy fore Llun
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r Tywysog Charles a Duges Cernyw yn siarad â'r dorf yn Llanelwy fore Llun

Mae'r Tywysog Charles a Duges Cernyw wedi dechrau eu taith haf yng Nghymru gydag ymweliad â Chadeirlan Llanelwy fore Llun.

Roedd y dorf wedi ymgasglu y tu allan i'r gadeirlan ymhell cyn i'r pâr gyrraedd ar gyfer gwasanaeth diolchgarwch i ddathlu statws dinas newydd i Lanelwy.

Yn ddiweddarach ddydd Llun bydd y cwpl brenhinol yn cwrdd â dioddefwyr y llifogydd yng nghanolbarth Cymru'r mis diwethaf.

Bydd y tywysog hefyd yn ymweld â'i fab William yn safle'r Awyrlu yn Y Fali, Sir Fôn.

Yn Llanelwy daeth nifer o blant ysgol i weld y pâr gyrhaeddodd gyda gosgordd yr heddlu am 11:45am.

'Gwych'

Fe siaradon nhw gyda rhai o'r dorf cyn mynd i mewn i'r gadeirlan i gwrdd â phobl leol oedd wedi ymgyrchu i gael statws dinesig i Lanelwy.

Fe wnaethon nhw hefyd gwrdd ag aelodau o esgobaeth Llanelwy a gweld peth o'r gwaith sy'n cael ei wneud yno.

Yn ôl y cynghorydd dinas a sir, Dewi Owens, roedd yn "wych" fod y pâr brenhinol yn ymweld.

"Rydym yn hynod, hynod o falch eu bod yma. Mae pawb yn Llanelwy yn gwerthfawrogi.

"Rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn amlach rwan ein bod yn ddinas."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwasanaeth ei gynnal yn y gadeirlan i ddathlu statws dinas Llanelwy

Bu Band Pres Sir Ddinbych - sydd ag aelodau rhwng wyth a 15 oed - yn chwarae wrth i'r pâr brenhinol gyrraedd.

Dywedodd yr arweinydd, John Powell: "Mae'n fraint fawr ac yn wych i'r plant."

Cynnyrch Cymreig

Roedd yr ymweliad yn ddechrau taith bedwar diwrnod o amgylch Cymru.

Bydd y pâr brenhinol yn ymweld â swyddfeydd cyngor Ceredigion ger Aberystwyth i gwrdd â'r gwasanaethau brys a'r gwirfoddolwyr fu'n helpu adeg y llifogydd yno fis diwetha'.

Byddan nhw hefyd yn agor Canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn Nyffryn Conwy, cyn i'r tywysog ymweld ag Awyrlu'r Fali i gwrdd â'i fab a'r criw achub yno.

Bydd y Tywysog William yn dangos un o'r hofrenyddion Sea King iddo, ynghyd â'r ystafell reoli.

Yn ystod gweddill y daith bydd y tywysog yn ymweld â Chadeirlan Aberhonddu, marchnad fwyd yn Aberaeron, Ceredigion, a Bragdy Felinfoel, Llanelli.

Dywedodd llefarydd ar ran Clarence House: "Mae hyrwyddo bwyd a chynnyrch Cymreig yn thema amlwg ar gyfer taith haf Tywysog Cymru a'r Dduges eleni.

"Maer' ddau yn awyddus i gefnogi bwyd Cymreig a chwmnïau o Gymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol