Tywysog Charles i gwrdd â dioddefwyr llifogydd
- Cyhoeddwyd
Bydd rhai o'r bobl a ddioddefodd effaith llifogydd yng nghanolbarth Cymru fis diwethaf yn cwrdd â Thywysog Cymru a Duges Cernyw wrth iddynt ymweld â'r wlad ym mis Gorffennaf.
Bu'n rhaid i gannoedd o bobl adael eu cartrefi o ganlyniad i lifogydd ym mis Mehefin.
Ddydd Gwener daeth i'r amlwg fod y tywysog wedi gwneud cyfaniad ariannol i helpu'r rhai a ddioddefodd.
Bydd y tywysog a'i wraig yn cychwyn ar eu taith bedwar diwrnod o Gymru ddydd Llun.
Yn Swyddfeydd Cyngor Ceredigion yn Aberystwyth, bydd y tywysog yn cwrdd â chriwiau'r gwasanaethau brys a gwirfoddolwyr fu'n helpu pobl yn ystod y llifogydd.
Ar Fehefin 8 fe ddisgynnodd gymaint o law mewn un diwrnod ag sy'n arfer disgyn mewn mis.
'Dim cefnogaeth'
Un o'r rhai a ddioddefodd oedd Steve South, pennaeth parc carafanau Glan yr Afon yn Llandre, Ceredigion.
Dywedodd ei fod yn falch fod y tywysog yn ymweld, ond mai bach iawn o gefnogaeth oedd busnesau fel ei un o wedi ei gael yn gyffredinol.
"D'yn ni heb dderbyn unrhyw beth. Fe lwyddwyd i agor rhannau o'r safle ddydd Sadwrn diwethaf, ond rydym yn dal i weithio ar weddill y safle."
Ychwanegodd iddo wario £100,000 ar atgyweirio'r safle, ac roedd yn credu y byddai'n rhaid gwario tua'r un swm eto cyn bod pethau'n ôl i'r arfer.
Yn y cyfamser, mae Arweinydd Cyngor Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yn gobeithio y bydd pobl yn derbyn arian o'r gronfa gymorth o fewn y pythefnos nesaf.
Mae dros £60,000 wedi'i gasglu hyd yma.
Taith frenhinol
Bydd taith y tywysog yn dechrau yn Llanelwy ddydd Llun.
Yno bydd yna wasanaeth o ddiolchgarwch yn yr Eglwys Gadeiriol, wrth i Lanelwy ddathlu cael statws dinas.
Yn ddiweddarach yn Nyffryn Conwy bydd y tywysog yn agor Canolfan Bwyd Bodnant yn swyddogol.
Yna bydd yn ymweld â maes awyr y llu awyr yn Y Fali, lle mae ei fab y Tywysog William yn gapten hofrennydd chwilio ac achub.
Yn ystod y pedwar diwrnod bydd hefyd yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ddydd Mawrth, marchnad bwydydd yn Aberaeron ddydd Mercher a Bragdy Felin-foel, Llanelli ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012