Rhwyg ymhlith Ceidwadwyr am ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi
- Cyhoeddwyd
Mae dros 100 o aelodau'r Blaid Geidwadol yn bygwth gwrthryfela yn erbyn y Llywodraeth ar gynlluniau i ddiwygio'r Tŷ'r Arglwyddi.
Mae'r BBC wedi cael ar ddeall fod dros 70 wedi arwyddo llythyr yn erbyn diwygio Tŷ'r Arglwyddi, yn eu plith Guto Bebb (Aberconwy) ac Alun Cairns (Bro Morgannwg).
Nos Fawrth fe fydd yr ASau yn pleidleisio ar amserlen ar gyfer y mesur wedi i'r drafodaeth gychwyn ddydd Llun.
Gall hyn olygu fod David Cameron yn colli pleidlais yn y Senedd am y tro cyntaf ers iddo ddod yn Brif Weinidog yn 2010.
Roedd yna anhapusrwydd ar feinciau'r Tŷ'r Arglwyddi ddydd Llun hefyd ynglŷn â'r cynlluniau.
Mae'r llywodraeth yn San Steffan am weld ail siambr lai ac un gyda'r mwyafrif wedi eu hethol.
Fe allai'r penderfyniad achosi rhwyg yn y glymblaid o ystyried fod diwygio Tŷ'r Arglwyddi yn flaenoriaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol.