Gemau Cymru yn 'hwb i'r ifanc' cyn y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Gemau CymruFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd beicio yn rhan o'r treiathalon y llynedd

Pythefnos cyn i'r Gemau Olympaidd gychwyn, fe fydd digwyddiad aml chwaraeon wedi ei ysbrydoli gan y Gemau, Gemau Cymru, yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd.

Dros y penwythnos fe fydd cyfle i weld y goreuon o 12 maes chwaraeon yn cystadlu.

Mae'r trefnwyr, Urdd Gobaith Cymru, yn disgwyl tua 1,300 o athletwyr dros y penwythnos.

Mae'r ieuenctid wedi eu gwahodd i gystadlu gan gorff llywodraethu eu chwaraeon o ganlyniad i'w dawn.

Bydd y cystadlaethau yn cael eu cynnal mewn canolfannau chwaraeon ledled Caerdydd, gan fanteisio ar y ddarpariaeth o'r safon uchaf sydd ar gael gan gynnwys y Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol, Pwll Rhyngwladol Caerdydd a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

Bydd y cyhoedd yn cael cyfle unigryw i weld sêr ifanc y dyfodol.

Campau newydd

Mae tri maes newydd wedi eu hychwanegu eleni.

Y llynedd y cafodd y Gemau eu cynnal am y tro cyntaf.

Y campau yw gymnasteg, nofio, canŵio, triathlon, pêl-droed i ferched, rygbi 7-bob-ochr, pêl-rwyd, boccia ac athletau.

Y tri camp newydd yw hwylio, rhwyfo dan do a sboncen.

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Rhai yn cystadlu mewn boccia y llynedd

Bydd y seremoni agoriadol yn Neuadd Dewi Sant ddydd Gwener.

Lowri Morgan fydd yn arwain y seremoni, gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn agor y Gemau yn swyddogol a pherfformiadau gan sêr megis Fluidity Freerun, sef rhedwyr stryd acrobatig, grŵp Padelli Dur Fitzalan a Funk Force, clwb dawns hip hop o Faesteg.

"Mae'n wych fod Gemau Cymru yn mynd o nerth i nerth ac y bydd chwaraeon newydd i'w gweld yno eleni," meddai Mr Jones.

"Digwyddiadau fel hyn fydd yn sicrhau ein bod ni yn cael y gorau o Gemau Olympaidd 2012, ac yn gallu cynnig etifeddiaeth chwaraeon a gwirfoddoli hir-dymor."

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, eu bod yn falch o allu cynnig digwyddiad o'r fath i bobl ifanc Cymru.

"Rydym wastad wedi rhoi llwyfan cenedlaethol i'n eisteddfodwyr serennu, ond nawr gallwn wneud yr un peth ar gyfer sêr chwaraeon y dyfodol.

"Mae un neu ddau oedd yn cystadlu llynedd wedi eu gweld gan sgowtiaid talent yn ystod y gystadleuaeth a bellach yn cynrychioli eu gwlad, sydd yn anhygoel."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol