Gobaith y Cymry Paralympaidd
- Cyhoeddwyd
Deiliwr y record byd am daflu'r waywffon, Nathan Stephens, fydd un o brif obeithion 38 o Gymry am fedalau yn Team GB ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Llundain.
Pencampwr y categori F57, a daflodd y record o 41.37m ym Mhencampwriaeth Agored y Weriniaeth Siec yn 2011, yw un o'r enwau mwyaf amlwg yn y garfan o 13 o athletwyr o Gymru yn y gemau.
Dyma'r nifer fwyaf erioed o Gymry yng ngharfan Prydain, gan guro'r 31 aeth i Beijing yn 2008.
Un arall o'r sêr yw Tracey Hinton fydd yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y chweched tro ac a enillodd ddwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Ewrop yn ddiweddar.
Fe gystadlodd am y tro cyntaf yn Barcelona yn 1992.
Mae'r tîm ifanc o Gymru yn cynnwys chwe aelod sy'n 21 oed neu'n iau.
Athletwyr o Gymru:
Aled Davies: F42 taflu maen/disgen (oed: 21; ganwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn byw yng Nghaerdydd)
Kyron Duke: F40 gwaywffon/taflu maen (oed: 19; ganwyd yng Nghasnewydd ac yn byw yng Nghwmbrân)
Jordan Howe: T35 100/200m (oed: 16; ganwyd yng Nghaerdydd ac yn byw yng Nghaerdydd)
Rhys Jones: T37 100/200m (oed: 18; ganwyd ym Mhontypridd ac yn byw yn Nhonypandy)
Nathan Stephens: F57 gwaywffon (oed: 24; ganwyd yng Nghaerdydd ac yn byw yng Nghaerdydd)
Steve Morris: T20 1500m
Tracey Hinton: T11 100/200m; (oed: 42) Caerdydd (gyda rhedwr sy'n gweld - Steffan Hughes (Llanelli))
Bev Jones: F37 disgen/taflu maen (oed: 37; ganwyd ym Mancot ac yn byw yn Shotton)
Jenny McLoughlin: T37 100/200/4x100m ras gyfnewid (oed: 20: ganwyd yn Stockport ac yn byw yng Nghas-gwent)
Josie Pearson: F51 disgen/taflu clwpa; (oed: 26)
Olivia Breen: T38 100/200/4x100m ras gyfnewid (oed: 16)
Claire Williams: F12 disgen; (oed: 24 ac yn byw yn Loughborough)
Campau Paralympaidd eraill (Y Cymry) :-
Pippa Britton - Bwa saeth
Jacob Thomas - Boccia (athletwr cymorth: Mike Thomas - Boccia)
Mark Colbourne - Seiclo
Rachel Morris - Seiclo
Keryn Seal - Pêl-droed
Darren Harris - Pêl-droed
Sam Scowen - Rhwyfo
Steve Thomas - Hwylio
Liz Johnson - Nofio
Nyree Kindred - Nofio
Rhiannon Henry - Nofio
Morgyn Peters - Nofio
Rob Davies - Tenis bwrdd
Paul Davies - Tenis bwrdd
Sara Head - Tenis bwrdd
Paul Karabardak - Tenis bwrdd
Scott Robertson - Tenis bwrdd
Sam Bowen - Pêl-foli eistedd
Jess O'Brien - Pêl-foli eistedd
Amy Brierly - Pêl-foli eistedd
James Roberts - Pêl-foli eistedd
Sam Scott - Pêl-foli eistedd
Claire Strange - Pêl-fasged cadair olwyn
David Anthony - Rygbi cadair olwyn
Gemma Collis - Cleddyfaeth cadair olwyn
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012