Y Cymry yn y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Dai GreeneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Dai Greene fod ymysg y medalau yn y Gemau Olympaidd yn Llundain 2012

ydd mwy o Gymry yn nhîm Olympaidd Prydain nag mewn unrhyw gemau ers 1908 pan gafodd y Gemau hefyd eu cynnal yn Llundain.

Mae pencampwr Ewrop, y Gymanwlad a'r Byd, Dai Greene, yn gobeithio bod ymysg y medalau yn y ras 400m dros y clwydi, ac fe fydd yn un o 30 o Gymry sy'n aelodau o Team GB ar gyfer Gemau Llundain 2012.

Fel y wlad sy'n cynnal y Gemau, mae Prydain yn cymhwyso'n awtomatig am nifer o gampau, ac mae disgwyl i Team GB gystadlu ymhob un o'r 26 o gampau yn y Gemau a fydd yn dechrau yn Llundain ar Orffennaf 27.

Fe fydd y gêm bêl-droed gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, ar Orffennaf 25.

Dyma'r athletwyr o Gymru sydd wedi cael eu dewis i'r Gemau, ac os fyddwch yn clicio ar yr enw fe welwch fywgraffiad byr o bob un.

Wedi eu dewis i Team GB:

BOCSIO

HOCI

RHWYFO

HWYLIO

SAETHU

NOFIO

TAEKWONDO

TRIATHLON

CODI PWYSAU

GYMNASTEG

ATHLETAU

PÊL-DROED

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol