Rhybudd llawfeddyg am ordewdra

  • Cyhoeddwyd
Obese childFfynhonnell y llun, Science
Disgrifiad o’r llun,

Mae gordewdra yn costio amcangyfrif o £73m y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru

Mae llawfeddyg blaenllaw sy'n gweithio ar gleifion gordew wedi dweud ei fod wedi gweld pobl ifanc sydd gymaint dros eu pwysau fel nad ydynt wedi medru gadael eu cartrefi am wyth mlynedd.

Mae tîm Jonathan Barry yn Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi trin 1,000 i gleifion mewn 18 mis.

Mae delio gyda gordewdra yn costio amcangyfrif o £73 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru.

Yn y cyfamser mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Lindsay Whittle, wedi honni bod rhai rieni yn "lladd eu plant gyda charedigrwydd" drwy beidio taclo problem gordewdra.

Arbedion

Bob blwyddyn mae hyd at 90 o gleifion sy'n ordew yn cael llawdriniaeth yn Sefydliad Llawdriniaeth Gordewdra Cymru yn Nhreforys er mwyn cyfyngu ar faint eu stumogau, neu i gael triniaeth arall i leihau faint o galorïau y maen nhw'n eu bwyta.

Dywedodd y llawfeddyg Jonathan Barry wrth raglen Sunday Politics ac BBC Cymru: "Mae llawer ohonyn nhw yn gwella o diabetes ac yn amlwg mae mantais o safbwynt cost i hynny. Wedi dwy flynedd a hanner mae'r arbedion yn sylweddol.

"Rydym yn gwybod bod hwn yn 'glefyd' drud sydd ddim yn mynd i fynd i ffwrdd.

"Rhaid i'r bobl yma fod yn ddewr i fynd allan o'r drws ffrynt. Rwy'n credu y bydd llawer o'r cleifion sy'n fy ngweld yn dweud eu bod yn teimlo embaras yn mynd i rhywle, ac mae hynny'n gwaethygu'r broblem.

"Rydym wedi gweld cleifion dros y blynyddoedd, pobl ifanc, sydd heb adael eu cartrefi am wyth neu naw mlynedd."

Pedwerydd

Dangosodd astudiaeth ar ran Llywodraeth Cymru y llynedd y gallai gordewdra gostio amcangyfrif o £73m i'r GIG yng Nghymru bob blwyddyn, ond mae ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn rhybuddio y gallai'r gost fod yn lawer uwch.

Dangosodd arolwg gan Sefydliad Iechyd y Byd y llynedd bod Cymru'n bedwerydd allan o 39 o wledydd am gael plant 15 oed oedd yn order - dim ond yr Unol Daleithiau, Groeg a Chanada oedd yn waeth.

Yn ei adroddiad blynyddol, dywedodd Prif Swyddog meddygol Cymru ,Dr Tony Jewell, bod twf mewn gordewdra wedi arafu, ond bod llawer o waith i'w wneud, ac roedd yn cwestiynu'r noddi o ddigwyddiadau mawr fel y Gemau Olympaidd gan gwmniau bwyd.

Yn gynharach yn y mis, awgrymodd Lindsay Whittle AC y byddai angen gweithredu bryd ar y mater, gan ddweud:

"Nid wyf am i blant gael eu cymryd i gartrefi gofal, ond yr hyn sy'n digwydd yw bod rhai rieni yn lladd eu plant drwy garedigrwydd er fy mod yn siwr nad dyna yw eu bwriad.

"Rhaid i ni rhybuddio'r rhieni yma y bydd eu plant yn marw - efallai o fewn oes eu rhieni - ac mae'n hynny'n sefyllfa ofnadwy."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol