Prif Swyddog Meddygol: Angen 'camau i daclo gordewdra'

  • Cyhoeddwyd
Bwyty McDonald's y Gemau OlympaiddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae McDonald's yn gobeithio hyfforddi 70,000 o wirfoddolwyr ar gyfer y Gemau Olympaidd

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cwestiynu a ddylai digwyddiadau chwaraeon mawr dderbyn nawdd gan gwmnïau "bwyd sothach ac alcohol".

Dywed Dr Tony Jewell ei fod am "dorri'r cysylltiadau" rhwng chwaraeon a bwyd brys, diod swigod ac alcohol.

"Ni fydd athletwyr yn cyrraedd y brig drwy fwyta byrgyrs a sglodion, neu drwy yfed cola neu oryfed alcohol yn wirion," meddai.

Mae Dr Jewell yn dweud hyn yn ei adroddiad blynyddol, ei olaf cyn ymddeol ar ddiwedd yr haf.

Mae Maer Efrog Newydd wedi cynnig y dylid gwahardd diodydd swigod enfawr mewn tai bwyta, siopau deli, sinemâu a chanolfannau chwaraeon.

Achosion y cyflyrau

Dywedodd Dr Jewell ei fod yn werth ystyried gwneud yr un peth yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn datgan fod mwy na hanner pobl Cymru dros eu pwysau neu'n ordew, ac nid yw traean y boblogaeth yn gwneud unrhyw ymarfer corff, neu ddim sy'n werth sôn amdano.

Dywedodd Dr Jewell ei fod yn hanfodol bod gwell triniaethau yn cael eu datblygu wrth i fwy o bobl ddioddef o ddiabetes math 2 a phwysau gwaed uchel.

Ychwanegodd fod angen mynd i'r afael ag achosion y cyflyrau yma, gan gynnwys diet a ffordd o fyw.

"Rydym am weld pobl yn bwyta'n dda ac yn cynnal eu pwysau ar lefel iach," meddai.

'Gormod o ddiodydd swigod'

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Jewell 'mae dweud yn glir nad oes lle i fwydydd brys ym myd chwaraeon yn anfon neges glir'

"Wrth i McDonald's baratoi i agor ei fwyty mwyaf yn y byd yng nghanol y Parc Olympaidd ac wrth i'r noddwr, Coca Cola, ein llethu â'i hysbysebion, rwyf am i ni ystyried y cysylltiadau rhwng digwyddiadau chwaraeon, brandiau sy'n hybu bwydydd a diodydd brys, a'n harferion bwyta ni.

"Prin y gallech chi ddychmygu hysbysebion tybaco mewn digwyddiadau chwaraeon y dyddiau hyn, ac mae'r cysylltiadau rhwng tybaco a marwolaethau o ganser a chlefydau anadlol yn amlwg i bawb.

"Mae amryw o wledydd hefyd yn gwahardd hysbysebu alcohol ym myd chwaraeon.

"Rydym ni yng Nghymru'n bwyta gormod o fwydydd wedi'u prosesu, sy'n llawn braster, siwgr a halen, ac yn yfed gormod o ddiodydd swigod.

"Credaf fod pawb yn ymwybodol o'r cyswllt rhwng bwyta ac yfed llawer o'r rhain yn rheolaidd a gordewdra.

"Er nad yw'r pwerau i wahardd hysbysebu bwydydd brys wedi'u datganoli yng Nghymru, credaf fod angen i ni chwalu'r berthynas rhwng llwyddiant ym myd chwaraeon, alcohol, diodydd swigod a bwydydd brys.

"Fel smygu, dyw'r rhain ddim yn cyfrannu at eu gallu ym myd chwaraeon ac o'u bwyta'n rheolaidd, maen nhw'n cyfrannu at ordewdra a'r problemau iechyd sy'n gysylltiedig â hynny.

"Mae yna lawer i'w wneud i daclo gordewdra, ac mae dweud yn glir nad oes lle i fwydydd brys ym myd chwaraeon yn anfon neges glir."

'Safon uchel'

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni McDonald's y byddai'r cwmni yn arlwyo "bwyd Prydeinig o safon uchel yn gyflym ac yn ddiogel" yn y Gemau Olympaidd gan hyfforddi hyd at 70,000 o wirfoddolwyr.

"Mae nawdd yn hollbwysig o ran llwyfannu'r Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn llwyddiannus," meddai.

"Yn y pen draw penderfyniad yr unigolyn yw dewis y bwyd, diod a'r gweithgareddau iawn iddyn nhw ac mae dewis eang ein bwydlenni yn gyswllt â gwybodaeth maethiad yn golygu bod cwsmeriaid yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol