Llacio rheolau er mwyn graeanu?

  • Cyhoeddwyd
GraeanuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae'n anghyfreithlon defnyddio cerbydau disel coch i ddibenion eraill megis graeanu

Mae undeb ffermwyr NFU Cymru wedi dweud eu bod yn cefnogi llacio'r rheolau sy'n ymwneud â'r defnydd o ddisel coch fel y gall ffermwyr raeanu ffyrdd yn ystod y gaeaf.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn cyflwyno ymgynghoriad wedi adolygiad anffurfiol o'r defnydd o danwydd.

Ar hyn o bryd mae'n anghyfreithlon i ffermwyr ddefnyddio cerbydau sy'n rhedeg ar ddisel coch i unrhyw ddiben y tu allan i waith y fferm.

Byddai newid y rheolau yn caniatáu i ffermwyr raeanu ffyrdd yn ystod gaeafau caled.

Ond mae'r undeb wedi dweud eu bod yn siomedig bod gweithgareddau eraill fel torri glaswellt wedi eu heithrio o'r adolygiad.

Anghysondeb?

Dywedodd ymgynghorydd polisi NFU Cymru, Dafydd Jarrett: "Er bod Cyllid a Thollau yn mynnu y bydd eu swyddogion yn defnyddio'u synnwyr cyffredin, ein pryder ni yw y bydd anghysonderau, gyda rhai ffermwyr yn cael eu cosbi ac eraill ddim.

"Byddwn yn parhau i gadw perthynas weithiol agos gyda Cyllid a Thollau."

Mewn datganiad dywedodd Cyllid a Thollau: "Yn ystod gaeafau caled diweddar, rydym wedi caniatáu i dractorau a cherbydau fferm eraill sy'n defnyddio disel coch i raeanu ffyrdd gwledig.

"Rydym yn ystyried a oes angen i ni newid y ddeddf i wneud y trefniant y fwy ffurfiol ac yn barhaol."

Mae'r ddogfen ymgynghorol - 'Defnyddio tanwydd ad-daladwy i raeanu mewn ardaloedd gwledig', dolen allanol - ar wefan Cyllid a Thollau ac maen nhw'n gwahodd sylwadau hyd at Hydref 5.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol