Adroddiad: 'Angen i dair prifysgol uno'

  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad annibynnol am addysg uwch yng Nghymru wedi casglu bod rhaid i brifysgolion y de-ddwyrain uno er mwyn osgoi dirywiad mewn safonau.

Yn ôl yr Athro Syr Steve Smith, fydd Prifysgol Cymru Casnewydd na Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd ddim yn gallu goroesi os na fydd y tair prifysgol yn uno.

Mae disgwyl i'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wneud cyhoeddiad o lawr y Senedd brynhawn Mawrth ynglŷn â dyfodol addysg uwch yng Nghymru.

Yn ddiweddar, dywedodd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd na fydden nhw'n ymuno â Phrifysgolion Morgannwg na Chasnewydd i greu sefydliad addysg uwch ar gyfer y de-ddwyrain.

Cytuno

Mae Syr Steve Smith wedi apelio ar Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i ail-ystyried.

Roedd y gweinidog wedi gofyn am yr adroddiad ym mis Mawrth.

Bryd hynny dywedodd ei fod yn cytuno â chasgliadau'r Cyngor Ariannu Addysg Uwch Cymru, hynny yw bod angen creu un sefydliad addysg uwch yn y rhanbarth.

Mae'r adroddiad wedi dweud bod cyfres o gyfleoedd wedi eu colli ym myd addysg uwch dros y blynyddoedd ac mai'r unig ffordd i atal dirywio fyddai i'r tair prifysgol uno.

Dywedodd fod y prifysgolion yn fach ac na fydden nhw'n goroesi yn annibynnol.

Yn fwy anodd

Mae wedi nodi bod Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn gwneud yn dda ar hyn o bryd, yn ariannol ac addysgol, ond y byddai'r sefyllfa'n anoddach yn ariannol petai'r cyngor ariannu a'r llywodraeth yn cadw at eu blaenoriaethau cyllido presennol.

Mae Undeb y Prifysgolion a'r Colegau wedi beirniadu bwrdd llywodraethol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd am beidio â gwneud penderfyniad "fyddai o les i'r sefydliad".

Dywedodd Prifysgol Morgannwg eu bod yn croesawu'r adroddiad.

Gofynnwyd i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd am ymateb.