Ymateb i gynigion bwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidyddion, mudiadau a phobl leol wedi bod yn ymateb i gynigion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am newid gwasanaethau iechyd yn y gogledd.
Gan fod cynnig i gau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog, dywedodd Gwilym Price, is-gadeirydd pwyllgor amddiffyn yr ysbyty, ei fod yn derbyn bod angen arbed arian.
"Ond pam na fyddan nhw'n edrych o'r top i lawr i wneud toriadau?
"Mae ganddon ni enghreifftiau gwych o wastraff ...
'Teilwng'
"Ac mae'r hyn mae'r ysbyty yn ei gostio i'r bwrdd drwy ogledd Cymru yn ddim mwy na £800,000.
"Mae'n ysbyty sy'n 80 oed ond mae wedi rhoi gwasanaeth teilwng iawn i'r dref ers 1925.
"Ein neges ni ydi iddyn nhw yw 'edrychwch yn fanwl ar y dyfodol'.
"'Edrychwch ar yr adroddiad y mae'r pwyllgor amddiffyn wedi ei anfon fel ymateb i adroddiad Dr Edward Roberts, ac fe wnewch chi weld pa mor gryf ydi ein daliadau a'n bod yn deilwng o gael ysbyty'."
Dywedodd y Cynghorydd Linda Wynn Jones o Lan Ffestiniog na fydden nhw'n rhoi'r gore i'r frwydr i gadw'r ysbyty.
Mae AC Gogledd Cymru Plaid Cymru, Llŷr Huws Gruffydd, wedi dweud bod ei blaid am wella'r Gwasanaeth Iechyd.
"Hyd yma dwi ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod agenda israddio a chanoli'r Gweinidog Iechyd yn mynd i gyflawni hyn."
'Cwyn ffurfiol'
Dywedodd Pat Billingham, Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr: "Erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori mi fyddwn yn ymateb yn ffurfiol i'r cynigion.
"Mi fyddwn ni'n dweud a ydym yn credu bod y newidiadau er lles pobl leol a'r Gwasanaeth Iechyd.
"Os nad ydym yn fodlon ar ymateb y bwrdd iechyd mae modd anfon cwyn ffurfiol at y Gweinidog Iechyd."
Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, wedi dweud ei fod yn siomedig iawn.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn gwasanaethau lleol i bobl leol.
"Dywedodd y Gweinidog Iechyd na fyddai'r un ysbyty yn cael ei israddio ..."
Cythruddo
Byddai'r bwriad i gau unedau mân anafiadau ar draws y gogledd yn cythruddo'r rhai sy'n ddibynnol ar y gwasanaeth, meddai Mr Millar.
"Dwi'n bryderus y byddwn ni'n wynebu haf hir o ansicrwydd i gleifion a staff y Gwasanaeth Iechyd.
"Mae'n allweddol bod y bwrdd yn caniatáu trafodaeth agored ac onest ar y cynlluniau.
"Fe ddylai'r cyhoedd fod yn cael dylanwadu ar y math o wasanaeth fydd yn eu hardal."
Dywedodd AC Llafur Delyn, Sandy Mewies: "Byddaf i'n craffu ar yr argymhellion, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar Y Fflint a'r Wyddgrug.
"Dylai gwasanaethau iechyd fod yn ddiogel yn glinigol, o ansawdd uchel, yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y ganrif hon."
Dywedodd y dylai'r ymgynghori fod yn agored ac yn dryloyw ac y dylai cymaint o bobl â phosib gymryd rhan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012