Troi rhan arall o'r A465 yn ffordd ddeuol

  • Cyhoeddwyd
Rhan o ffordd yr A465 rhwng Brynmawr a ThredegarFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Arddangoswyd cynlluniau'r rhan rhwng Brynmawr a Thredegar ym mis Hydref 2011

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai 7.8 cilometr o'r A465, Heol Blaenau'r Cymoedd, rhwng Brynmawr a Thredegar, yn troi'n ffordd ddeuol.

Mae'r penderfyniad i fwrw ymlaen â'r drydedd o chwe rhan cynllun ffordd ddeuol yr A465 yn golygu y bydd y rhan ddiweddara'n ymuno â'r rhan o'r A465 sydd wedi ei gwella, i'r gorllewin o gyffordd Nant-y-bwch yn Nhredegar.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cynllun diweddara ar gost o £150m yn rhoi mwy o gyfle i yrwyr oddiweddyd ac yn cael gwared ar fannau peryglus.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau tua diwedd 2012 a dod i ben erbyn 2015.

Uwchraddio

Bydd gwaith y rhan hon o'r cynllun yn cynnwys:

  • Uwchraddio'r ffordd tair lôn bresennol i ffordd ddeuol lawn;

  • Lôn feicio tri chilomedr o hyd;

  • Man egwyl ynG Ngarn Lydan gyda digonedd o le parcio, gwybodaeth i dwristiaid a mannau gwylio'r golygfeydd tuag at Barc Rhanbarthol y Cymoedd a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant: "Mae'r A465 yn briffordd hollbwysig yn ein rhwydwaith trafnidiaeth a dyma'r prif gysylltiad rhwng Gorllewin Cymru a Chanolbarth Lloegr.

"Bydd gwneud Heol Blaenau'r Cymoedd yn ffordd ddeuol yn helpu gwella diogelwch, lleihau amseroedd teithio ac yn cyfrannu at adfywiad ehangach y rhanbarth."

Dywedodd y byddai ffordd well ar gyfer Blaenau'r Cymoedd hefyd yn helpu trechu tlodi yn yr ardal drwy wella'r cysylltiadau â safleoedd pwysig ar gyfer addysg, canolfannau iechyd a swyddi."

Roedd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mawrth.

Canolfan ymwelwyr

Ar ôl i'r gwaith ddechrau bydd gan swyddfa'r safle ei chanolfan ymwelwyr ei hun lle bydd y cyhoedd yn gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion a sut y mae'r gwaith yn dod yn ei flaen.

Mae cynllun ffordd ddeuol yr A465 yn cynnwys chwe rhan.

Mae dwy ran wedi'u cwblhau, o Dredegar i Ddowlais gafodd ei hagor yn 2004 ac o'r Fenni i Gilwern gafodd ei hagor ym mis Mai 2008.

Arddangoswyd cynigion y rhan ddiweddara ym mis Hydref 2011.

Disgwylir i'r gwaith sy'n ymwneud â'r ffordd rhwng Dowlais Top i ffordd yr A470 ac o Hirwaun i ffordd yr A470 ddechrau ar ôl mis Ebrill 2014.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol