Dafydd Elis-Thomas yn cael y chwip yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood, ei bod hi am i'r mater ddod i ben.

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi cael chwip ei blaid yn ôl ac ni fydd mwy o gamau yn ei erbyn, meddai Plaid Cymru.

Dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood: "Does dim dwywaith, mae digwyddiadau'r dyddiau diwethaf wedi bod yn niweidiol i Blaid Cymru a hefyd i'r ymgyrch i gael trafodaeth dryloyw a gonest - ac atebolrwydd - wrth i ni ystyried dyfodol ein Gwasanaeth Iechyd."

Roedd am i'r mater ddod i ben, meddai, ac nid oedd yn dderbyniol fod datganiadau'n cael eu gwneud i'r wasg cyn eu rhannu gyda thîm y blaid.

"Er mod i'n anghytuno â fe, rydw i'n parchu'r ffaith nad yw Dafydd Elis-Thomas yn rhannu safbwynt y grŵp - a safbwynt y grŵp ers tro - ar ddiogelu gwasanaethau iechyd craidd ar lefel gymunedol a'r angen am atebolrwydd gweinidogol am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud."

Dadlau

Ond, meddai, os oedd gan aelod bryder ynglyn ag unrhyw fater o gydwybod, roedd rhaid trafod a dadlau hynny o fewn y grŵp er mwyn cyrraedd cytundeb.

"Dyna sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio, drwy gael trafodaethau a dadleuon am syniadau ac anghytundeb gyda'n gilydd nid drwy ymatal a pheidio cymryd rhan.

"Yn y dyfodol felly, os bydd grŵp Plaid Cymru gyda'i gilydd yn dewis cefnogi mater ac ymgyrch benodol, rwy'n disgwyl i bob aelod uno y tu ôl i hynny oni bai eu bod yn fodlon dod i'r grŵp ac esbonio a thrafod pam nad ydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny".

Siomi

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas nad oedd yn fodlon gwneud sylwadau ar wahân i: "Dwi'n astudio'r datganiad annisgwyl hwn."

Fore Gwener roedd wedi dweud iddo ystyried ymuno â'r Blaid Lafur.

Ond mynnodd na fyddai'n gwneud hynny.

Ar y Post Cyntaf ddeuddydd ar ôl iddo fethu â bod ym mhleidlais diffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths, dywedodd fod agwedd Plaid Cymru wedi ei siomi.

"Ddeuda i wrthach chi pam yn hollol onest..," meddai wrth ymateb i'r cwestiwn a oedd wedi ystyried ymuno â'r Blaid Lafur.

Disgrifiad,

Nia Thomas yn holi'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

"Dwi wedi fy siomi yn y safiad mae Plaid Cymru wedi ei gymryd ers, wel, yn ystod yr ymgyrch etholiad diwetha ...

"Mi safais i yn yr etholiad diwetha dros Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd i ganmol beth oeddan ni wedi ei wneud mewn llywodraeth.

"Ond nid dyna'r ymgyrch gawson ni ac felly 'dan ni bellach yn rhyw fath o wrthblaid gynorthwyol i'r Ceidwadwyr.

Croesawu

"Yn sicr, fydda i ddim yn ymuno â Llafur oherwydd dwi wedi bod mewn cyfarfod ym mhwyllgor etholaeth neithiwr.

"Dwi wedi cael eu cefnogaeth nhw yn unfrydol a dwi'n parhau yn aelod Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd".

Pan ofynnwyd i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a fyddai'n croesawu'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn ei blaid, dywedodd: "Does 'na ddim dwywaith y byddem yn croesawu unrhyw un sy'n cefnogi amcanion Llywodraeth Lafur Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol