'Cam sylweddol' i gampws newydd prifysgol

  • Cyhoeddwyd
Argraff arlunydd o'r campws arfaethedigFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r campws agor erbyn mis Medi 2015

Mae cynllun i adeiladu campws gwyddoniaeth ac arloesed gwerth £400 miliwn ar gyfer Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd carreg filltir bwysig.

Mae Cyngor y Brifysgol wedi cytuno y bydd y Brifysgol yn parhau â cham olaf y broses a bydd St Modwen a'u partner adeiladu, Vinci, yn disgwyl cynnig manwl erbyn yr hydref.

Os bydd y trafodaethau yn llwyddiannus ac yn dilyn cymeradwyo caniatâd cynllunio, bydd y gwaith yn cychwyn yn gynnar yn ystod 2013 a'r campws newydd yn barod i groesawu myfyrwyr yn Hydref 2015.

Fe fydd y campws ar safle sydd bron i 70 erw, ryw ddwy filltir a hanner o ganol Abertawe ger Ffordd Fabian.

Bydd lle i 4,000 o fyfyrwyr i fyw ar y campws.

'Hybu twf'

Dywedodd Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies, bod y penderfyniad yn gam sylweddol ymlaen yn natblygiad y cynllun uchelgeisiol.

''Bydd y datblygiad yn galluogi'r Brifysgol i ymestyn ei ffiniau cyfyng presennol, ein caniatáu i gyflymu ein strategaeth twf a gwneud y mwyaf o'n harbenigedd ym maes ymchwil a'n partneriaethau gyda chwmnïau cenedlaethol o fri.

''Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwaith ailddatblygu ein campws presennol.

"Bydd y ddau gampws yn hybu twf mewn clystyrau technoleg uwch ar gyfer yr economi ddigidol, gwyddorau bywyd a pheirianneg ac o ganlyniad yn cyfrannu'n helaeth tuag at adfywiad economaidd yr ardal a thu hwnt.''

£15 miliwn

Credir y gallai'r cynllun greu miloedd o swyddi.

Yn ôl y Brifysgol, hwn yw'r prosiect mwyaf o'i fath ym Mhrydain ac un o'r rhai mwyaf yn Ewrop.

Ym mis Ionawr y llynedd cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n helpu cyllido'r campws wrth iddyn nhw gytuno mewn egwyddor i lenwi bwlch cyllido o £15 miliwn.

Y gobaith yw y bydd Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi'r Bae ar Ffordd Fabian yn rhoi cyfle i ymchwilwyr academaidd gydweithio â chwmnïau er mwyn datblygu syniadau o fudd i'r economi.

Byddai'r ganolfan ymchwil a thechnoleg yn caniatáu i'r brifysgol gydweithio â chwmnïau fel Rolls Royce.

Mae disgwyl y byddai'n cyfrannu mwy na £3 biliwn i economi'r rhanbarth dros gyfnod o 10 mlynedd.