Tirlithriad yn cau rhan o lwybr
- Cyhoeddwyd
Mae rhan o Lwybr yr Arfordir wedi ei chau oherwydd tirlithriad.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau eu bod wedi eu galw i helpu cau rhan o'r llwybr ger Y Borth, Ceredigion.
Mae BBC Cymru'n deall bod y tirlithriad wedi effeithio ar 16 throedfedd o lwybr ym Mae Aberwennol ger Parc Carafanau Brynrhodyn.
Chafodd neb ei anafu.