Team GB 3-1 EAU (Dynion)

  • Cyhoeddwyd
Craig Bellamy a Ryan GiggsFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Wedi cymorth gan Craig Bellamy fe wnaeth Ryan Giggs rwydo gôl gyntaf Team GB

Team GB 3-1 EAU (Dynion)

Roedd cyfraniad y Cymry yn nhîm pêl-droed Prydain nos Sul yn amlwg iawn.

Fe ddaeth gôl gyntaf y tîm cartref i'r capten, Ryan Giggs, wedi 16 munud o'r gêm yn erbyn yr Emiradau Arabaidd Unedig yn Wembley.

Roedd Craig Bellamy yn allweddol yn creu'r symudiad er mwyn i Giggs benio i gefn y rhwyd.

Cychwynnodd bob un o'r pum Cymro yn y garfan y gêm.

Munudau cyn y chwiban fe wnaeth Bellamy basio'n gelfydd at Tom Cleverley wnaeth daro'r postyn, mor agos at ail gôl.

Wedi'r hanner roedd y perfformiad yn llawer gwell.

Eilydd

Er hynny fe wnaeth Rashed Eisa lwyddo i rwydo i'r Emiradau.

Cafodd Giggs ei eilyddio wedi 71 munud a daeth chwaraewr Abertawe, Scott Sinclair, i'r maes.

O fewn munud roedd Bellamy wedi pasio'r bêl tuag ato er mwyn iddo sgorio.

Ac o fewn tri munud llwyddodd Daniel Sturridge i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.

Yn y gêm arall yn yr un grŵp fe wnaeth Urugay golli yn erbyn Senegal

Fe fydd Urugay yn herio Prydain yn Stadiwm y Mileniwm nos Fercher.

Prydain sydd ar frig y grŵp wedi dwy gêm ac mae angen i Urugay ennill y gêm er mwyn symud ymlaen i'r wyth olaf gyda Team GB.

Mae Senegal yn gyfartal ar yr un pwyntiau â Phrydain yn Grŵp A.

Hefyd gan y BBC