Pum Cymro yng ngharfan bêl-droed Prydain
- Cyhoeddwyd
Mae pum Cymro wedi eu henwi yng ngharfan bêl-droed Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Yn ôl y disgwyl, mae Craig Bellamy wedi sicrhau ei le fel un o'r tri chwaraewr dros 23 oed sy'n cael eu caniatáu, ynghyd â Ryan Giggs.
Bydd Neil Taylor a Joe Allen o glwb Abertawe yn ymuno â nhw, ynghyd ag Aaron Ramsey o Arsenal.
Un arall sydd wedi'i enwi yn y garfan yw ymosodwr Abertawe, Scott Sinclair.
Bu'n rhaid i Gareth Bale dynnu ei enw yn ôl oherwydd anaf.
Dadlau
Mae presenoldeb chwaraewyr o Gymru - ynghyd â'r Alban a Gogledd Iwerddon - yn y garfan wedi bod yn destun dadlau tanbaid, gyda Chymdeithasau Pêl-droed y gwledydd hynny yn mynegi anfodlonrwydd gyda'r sefyllfa.
Pryder y cymdeithasau yw y bydd Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn colli eu statws fel gwledydd annibynnol o fewn FIFA - corff rheoli pêl-droed y byd - os fyddan nhw'n cytuno i fod yn rhan o dîm Prydeinig.
Nid yw'r hyfforddwr Stuart Pearce wedi dewis unrhyw chwaraewyr o'r Alban na Gogledd Iwerddon.
Dywedodd pennaeth Team GB, Andy Hunt: "Wedi absenoldeb o 52 mlynedd, mae'n wych croesawu carfan bêl-droed o Brydain i'r Gemau Olympaidd.
"Mae cynrychioli eich gwlad yn y Gemau Olympaidd yn unigryw, ac rwy'n siwr y bydd y grŵp talentog yma yn chwarae rhan fel aelodau llawn o Team GB.
"Mae'r garfan yn gymysgedd o ieuenctid a phrofiad, gyda 16 o'r 18 yn chwarae eu pêl-droed ar y lefel uchaf yn yr Uwchgynghrair."
Mynnodd Stuart Pearce nad oedd wedi dewis y tîm ar sail cenedligrwydd, ac fe wrthododd awgrym na fyddai cefnogwyr Cymru yn cefnogi tîm Prydain.
"Pan yr ydwyf i wedi cefnogi aelod o dîm Prydain fel unigolyn, dydw i erioed wedi edrych ar eu cenedligrwydd - rwy'n eu gweld fel cynrychiolwyr o Brydain, a gobeithio mai dyna fydd yn digwydd ar ein hynysoedd yr haf yma."
Nid yw Pearce wedi penodi capten i'r garfan hyd yma, ac mae disgwyl iddo wneud hynny pan fydd y garfan yn cwrdd i ymarfer.
Dyma'r garfan o 18 yn llawn :-
Jack Butland (Birmingham), Jason Steele (Middlesbrough); Ryan Bertrand (Chelsea), Steven Caulker (Tottenham), Craig Dawson (West Brom), Micah Richards (Manchester City), Neil Taylor (Abertawe), James Tomkins (West Ham); Joe Allen (Abertawe), Tom Cleverley (Manchester United), Jack Cork (Southampton), Ryan Giggs (Manchester United), Aaron Ramsey (Arsenal), Danny Rose (Tottenham), Scott Sinclair (Abertawe); Craig Bellamy (Lerpwl), Marvin Sordell (Bolton), Daniel Sturridge (Chelsea).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011