Joe Allen yn dweud bydd ffitrwydd y garfan llawer gwell

  • Cyhoeddwyd
Joe Allen yn ceisio cael y bêl gan Hulk o Frasil yn gêm gyfeillgar Team GBFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gêm gyfeillgar rhwng Team GB a Brasil nos Wener yn fodd o brofi ffitrwydd y garfan

Mae chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe, Joe Allen, yn credu y bydd ffitrwydd Team GB llawer uwch nag yr oedd yn eu gêm gyfeillgar nos Wener.

Collodd y tîm o 2-0 yn erbyn Brasil wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Fe fydd y tîm yn cychwyn eu hymgyrch yn y Gemau yn erbyn Senegal nos Iau.

"Rydan ni'n teimlo pan awn ni i'r gêm gyntaf, dyna pryd y byddwn ni ar ein gorau o ran ffitrwydd a pharatoi," meddai Allen.

Bydd Team GB yn chwarae yn Old Trafford.

'Bythgofiadwy'

Eglurodd Allen, 22 oed, bod y profiad o chwarae yn erbyn Brasil yn "un gwych".

"Roedd yn brofiad bythgofiadwy.

"Roedd yn baratoad gwych wrth i ni fynd ati i herio Senegal.

"Roeddem angen y gêm er mwyn edrych ar ein ffitrwydd.

"Dwi'n credu y bydd Brasil yn un o brif dimau'r bencampwriaeth ac os gawn ni gyfle arall i'w herio, fe fyddwn wedi paratoi yn well.

"Yn bersonol, roedd cael chwarae am 90 munud yn wych.

"Mae'n anodd yr adeg yma o'r tymor ond dwi'n teimlo'n barod at y bencampwriaeth a gobeithio gallaf chware fy rhan."

Mae Allen yn un o bum Cymro yn y garfan, gyda'r capten Ryan Giggs, Craig Bellamy, Aaron Ramsey a Neil Taylor.

Mae Allen a Taylor yn ddau o dri chwaraewr Abertawe sydd yno, Scott Sinclair yw'r llall.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol