James yn cael dechrau da

  • Cyhoeddwyd
Andrew Triggs Hodge, Tom James, Pete Reed, Alex GregoryFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tîm rhwyfo Prydain yn y rownd gynderfynol prynhawn dydd Iau

Fe gafodd Tom James a gweddill pedwarawd heb lywiwr Prydain ras hawdd yn rownd ragbrofol y gystadleuaeth yn Eton Dorney fore Llun.

Y disgwyl yw mai brwydr rhwng Prydain ac Awstralia fydd hi am y fedal aur yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn, ond ceisio ennill eu lle yn y rownd gynderfynol oedd tasg y ddau dîm ddydd Llun.

Roedd Awstralia yn y ras gyntaf, gan osod her i bawb arall drwy dorri record y Gemau Olympaidd wrth ennill mewn amser o 5:47.07.

Wrth geisio dilyn hynny, fe ddechreuodd pedwarawd Prydain o James, Alex Gregory, Pete Read ac Andrew Triggs yn dda.

Yn wir roedden nhw'n glir o'r timau eraill erbyn hanner ffordd drwy'r ras, gan roi cyfle iddyn nhw ymlacio dros y 1,000 metr olaf, ond er hynny fe enillon nhw'r ras yn hawdd gydag amser o 5:50.27.

Fe fydd Prydain ac Awstralia yn osgoi ei gilydd yn y rownd gynderfynol, ac fe fydd disgwyl mawr am y rownd derfynol pan fydd y ddau yn cwrdd am y tro cyntaf yn ôl pob tebyg.

RHWYFO:

Tom James yn cyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth pedwar heb lywiwr. Bydd y rownd honno ddydd Iau, gyda'r rownd derfynol i ddilyn ddydd Sadwrn.

BOCSIO:

Bydd Andrew Selby o'r Barri yn cystadlu yn y Pwysau plu 52kg yng Nghanolfan Excel. Gan ei fod yn un o'r detholion, does dim rhaid iddo ymladd yn y rownd gyntaf, felly bydd ei ymddangosiad cyntaf yn yr ail rownd am 8.30pm nos Lun.