Caerdydd yn rhoi cychwyn ar y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Ciwiau
Disgrifiad o’r llun,

Adeg y gic gynta roedd ciwiau o hyd wrth i fagiau gael eu chwilio

Mae Gemau Olympaidd Cymru wedi dechrau yng Nghaerdydd.

Ddeuddydd cyn y Seremoni Agoriadol yn Llundain trechodd Tîm Pêl-droed Merched Prydain Seland Newydd o un gôl i ddim yn Stadiwm y Mileniwm.

Curodd Brasil Cameroon o bum gôl i ddim yn yr ail gêm gafodd ei gynnal yn y stadiwm nos Fercher.

Yn ôl trefnwyr y Gemau Olympaidd, Locog, cafodd y ddwy gêm eu gwylio gan gyfanswm o 30,847 o bobl.

Roedd disgwyl i fwy na 40,000 heidio i'r brifddinas ac roedd rhybudd i gefnogwyr gyrraedd ddwy awr cyn y gic gyntaf oherwydd y drefn chwilio.

Ciwiau

Ond am 4pm roedd ciwiau tu allan i'r stadiwm wrth i fagiau pobl gael eu chwilio.

Dywedodd rheolwr y stadiwm, Gerry Toms: "Rhaid i ni ddilyn y drefn - o fewn chwarter awr bydd pawb yn llwyddo i fynd i mewn.

"Mae'r mwyafrif helaeth wedi cyrraedd o fewn yr awr ddiwetha'."

Tra oedd y mwyafrif yn aros yn amyneddgar, roedd rhai'n cwyno.

Bydd 11 o gemau'n cael eu chwarae yn ystod cyfnod o wyth niwrnod yn Stadiwm y Mileniwm.

Disgrifiad,

Adroddiad Alun Thomas

Roedd Cadeirydd Llundain 2012, Seb Coe, yng Nghaerdydd cyn y gêm gynta'.

"Pan oedden ni'n gwneud cais am y gemau roedden ni'n pwysleisio y byddai'r gemau'n ymwneud â Phrydain i gyd ...

"Mae llawer o'r gemau yn Llundain ond nid dim ond stori Llundain yw hon.

'Canolfan ddelfrydol'

"Pan gyrhaeddais i'r bore 'ma roeddwn i'n cyrraedd dinas Olympaidd."

Fore Mercher dywedodd Mr Toms: "Mae popeth yn barod ac rydym ar ben ein digon fod y gemau wedi dewis Caerdydd fel lleoliad i gynnal gemau'r gystadleuaeth bêl-droed.

"Ac mae hyn yn cydnabod bod Caerdydd a Stadiwm y Mileniwm yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer digwyddiad byd-eang."

Mae Gweinidog Diwylliant Llywodraeth y DU ac Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn gwylio'r gêm gynta' yng Nghaerdydd.

"Rwy'n falch iawn fod digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd yn dechrau yng Nghymru," meddai Mrs Gillan.

"Mae Cymru'n chwarae rhan flaenllaw yn y gemau ac mae medalau a rhifau'r athletwyr wedi cael eu gwneud yng Nghymru.

"Rwyf am i'r holl wlad gymryd y cyfle hwn i ddangos popeth sy'n dda am Gymru, gan sicrhau gwaddol am gyfnod hir wedi i'r gemau ddod i ben.

Ffyrdd ar gau

Yn y gêm gynta' mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Gweinidog Chwaraeon Cymru, Huw Lewis.

"Mewn dau ddiwrnod bydd llygaid y byd ar y seremoni agoriadol yn Llundain," meddai Mr Jones.

"Ond Cymru sy'n cael y sylw nawr ac unwaith eto mae cyfle i ni ddangos i bobl ar draws y byd ba mor arbennig yw'r croeso i ddigwyddiadau chwaraeon."

Dywedodd Mr Lewis fod hyn yn "anrhydedd o'r mwyaf," cael cynnal y digwyddiad chwaraeon cyntaf yng ngemau 2012.

"Mae'r gemau pêl-droed hyn yn gyfle rhagorol i bobl Cymru gael profiad o gystadleuaeth Olympaidd yn ein prifddinas."

Roedd ffyrdd yng nghanol Caerdydd ar gau am wyth awr o 1.30pm ymlaen ddydd Mercher.

Ac roedd digwyddiadau fel comedi, cerddoriaeth a champau yng nghanol y ddinas rhwng 11am a 7pm a phobl yn gallu gwylio'r gemau ar sgrin fawr yn Yr Ais.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol