Adroddiad yn canmol y gwasanaeth iechyd ond yn galw am newid

  • Cyhoeddwyd
Offer ar gyfer llawdriniaethau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r amser aros wedi triniaeth clun wedi gostwng

Mae'r gwasanaeth iechyd wedi gwneud camau sylweddol yn ystod y 12 mis diwethaf wrth wella mynediad i driniaethau a gwella ansawdd gofal i gleifion.

Dyna ddywed adroddiad blynyddol cyntaf Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, David Sissling.

Roedd Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, wedi gosod her i'r gwasanaethau iechyd ac mae Mr Sissling yn falch o weld "gwelliannau cyffredinol sy'n canolbwyntio'n anad dim ar gyflawni".

Dywed bod yr adroddiad yn dangos bod angen moderneiddio'r gwasanaethau er mwyn adlewyrchu'n well y darlun o'r "anghenion iechyd yng Nghymru sy'n newid".

Yn ystod y misoedd nesaf fe fydd y saith bwrdd iechyd yn ymgynghori ar gynlluniau i wella eu gwasanaethau.

Cyffuriau

Wrth gyhoeddi ei adroddiad mae Mr Sissling yn nodi wyth pwynt lle mae'r gwasanaeth wedi llwyddo yn ystod 2011/12.

Dywed bod:

  • pob un o'r saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn darparu mynediad cyflymach i drin strôc;

  • lleihad o 32% yn yr achosion o heintiau C.difficile; mwy na 600 yn llai o achosion a mwy na 30 o fywydau wedi'u harbed;

  • y perfformiad cyson gorau gan y gwasanaeth ambiwlans ers dechrau casglu cofnodion;

  • lleihad yn yr amser y mae cleifion yn aros yn yr ysbytai - mae'r amser sy'n rhaid i glaf aros yn yr ysbyty i osod clun newydd wedi disgyn o 7.2 i 6.2 diwrnod, a gosod pen-glin newydd wedi disgyn o 6.8 i 6 diwrnod.

  • lleihad yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer cyflyrau cronig, gan gynnwys cwymp o 25% yn nifer yr aildderbyniadau ar gyfer cleifion a phroblemau gydag anadlu.

  • cyfraddau uchel o ran boddhad cleifion yn y ddarpariaeth o urddas mewn gofal gan staff;

  • sicrhau cydbwysedd ariannol a gwireddu £290 o arbedion effeithlonrwydd;

  • lleihad yn amseroedd aros orthopedig.

"Yn arbennig, mae'r gwelliannau mewn gofal strôc yn sylweddol, gyda phob bwrdd iechyd bellach yn sicrhau mynediad cyflym i thrombolysis - cyffuriau chwalu clotiau sy'n gwella'r cyfraddau goroesi - 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos," meddai Mr Sissling.

'Budd cyfyngedig'

"Mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr wedi nodi mai'r gwasanaeth iechyd yma yw'r system sy'n gwella gyflymaf yn hanes eu harchwiliad ar wasanaethau strôc yn y DU.

"Mae staff y gwasanaeth hefyd wedi gwneud cynnydd o ran lleihau amseroedd aros orthopedig, gan dorri i lawr ar dros 5,500 ar y rhestr aros hir yn ystod y flwyddyn."

Dywedodd hefyd fod angen gwneud rhagor o waith i gael gwared ar bob achos o restrau aros hir, a dylai'r gwasanaeth iechyd edrych ar driniaethau a oedd yn cynnig budd cyfyngedig.

"Gallai fod yn well trin rhai cyflyrau, megis poen cefn neu anafiadau pen-glin drwy ffisiotherapi yn hytrach na llawdriniaeth," meddai.

"Ac mae'n bosib na chaiff cleifion orthopedig sy'n ordew neu dros eu pwysau y canlyniadau gorau ar ôl, dyweder, gosod clun newydd am fod mwy o berygl iddyn nhw gael eu haildderbyn i'r ysbyty - efallai y byddai'n well rhagnodi rhaglen colli pwysau yn lle hynny. "

Dywedodd fod angen gwelliannau mawr eraill os yw'r gwasanaeth i fodloni'r heriau yn ei gynllun pum mlynedd, Law yn Llaw at Iechyd, a chyflawni'r uchelgais a osodwyd gan Gomisiwn Bevan, sef gwasanaethau "sy'n briodol i Gymru ond y mae modd eu cymharu â'r goreuon yn unrhyw le".

"Mae'r ffaith fod y gwasanaeth wedi lleihau derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer cyflyrau cronig mawr drwy ddarparu triniaeth yn agosach at gartrefi pobl, a lleihau'r angen am ofal i gleifion mewn ysbytai, ymysg y ffactorau sy'n hyrwyddo newid."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol