Disgwyl penderfyniad ar is-orsaf a rhwydwaith o beilonau

  • Cyhoeddwyd
Un o bosteri yn gwrthwynebu peiloniaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna wrthynebiad wedi bod i gynlluniau'r Grid Cenedlaethol

Bydd lleoliad is-orsaf bŵer dadleuol yn y canolbarth yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae'r Grid Cenedlaethol hefyd yn cyhoeddi eu lleoliad mwya' ffafriol ar gyfer gosod rhwydwaith o beilonau i gario'r pŵer.

Gwneir y cyhoeddiad yng Ngwesty'r Royal Oak yn Y Trallwng am 10am.

Mae'r Grid Cenedlaethol yn ystyried dau safle yn Sir Drefaldwyn ar gyfer yr is-orsaf newydd - Cefn Coch ar ucheldir ger Llanfair Caereinion neu Aber-miwl yn Nyffryn Hafren ger Y Drenewydd.

Bydd y peilonau, rhai yn 154 troedfedd (47m) o uchder, yn cludo'r trydan i rywdwaith yn Sir Amwythig.

Ar ôl cyhoeddi eu cynlluniau'r llynedd mae'r Grid Cenedlaethol wedi cynnal nifer o arddangosfeydd cyhoeddus.

Maen nhw'n dweud fod canolbarth Cymru wedi cael ei glustnodi fel lleoliad pwysig i ddatblygu ynni gwynt.

Ffafrio

Ond mae yna wrthwynebiad cryf wedi bod yn lleol, gyda nifer o gyfarfodydd cyhoeddus a phrotestiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol: "Fe fydd y Grid Cenedlaethol yn cyhoeddi pa opsiwn rydym yn ffafrio ar gyfer creu rhwydwaith ar gyfer ffermydd gwynt yn y canolbarth.

"Bydd hyn yn cynnwys y safle ar gyfer yr is-orsaf a llwybr y peilonau drwy Bowys a Sir Amwythig.

"Mae'r llwybr wedi ei ddewis ar ôl ymgynghoriad llawn gyda chymunedau lleol, cyrff arbenigol ac asesiadau manwl i ystyried effaith posib y cynigion ar y tirwedd, yr amgylchedd, treftadaeth a chymunedau lleol."

Dywedodd y llefarydd mai gwaith y Grid Cenedlaethol yw sicrhau fod gan y ffermydd gwynt modd i gyflenwi trydan i'r rhwydwaith.

Mae Alison Davies o grŵp ymgyrch Gwarchod Mynyddir Maldwyn wedi dweud fod yna gynlluniau i godi dros 10 o ffermydd gwynt, a gallai hynny olygu 800 o dyrbinau i'r canolbarth yn y dyfodol.

Bydd yr is-orsaf ar safle 19 erw o dir ac fe allai'r gwaith o'i chodi gael ei gwblhau erbyn 2015.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol