Tyrbinau gwynt: 200 yn protestio

  • Cyhoeddwyd
Protest ynni gwyntFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y brotest y tu allan i bencadlys Cyngor Sir Ynys Môn

Roedd dros 200 o brotestwyr yn Llangefni ddydd Mercher oherwydd y nifer gynyddol o geisiadau cynllunio am ffermydd gwynt ar Ynys Môn.

Mae dros 40 o safleoedd newydd ar Ynys Môn dan ystyriaeth ar gyfer codi tyrbinau gwynt.

Eisoes mae'r cyngor sir wedi dweud eu bod am lunio polisïau cynllunio newydd i ddelio efo'r holl geisiadau ac y byddai cyfle cyn bo hir i bobl yr ynys roi eu barn.

Mae mudiad sy'n erbyn y datblygiadau wedi dweud y byddai mwy o dyrbinau'n "dinistrio cefn gwlad".

Yn ôl Ynys Môn yn erbyn Tyrbinau Gwynt, dyw polisi'r awdurdodau ddim yn ddigon cadarn.

Gallai rhai o'r tyrbinau fod hyd at 100 metr o uchder.

'Gor-ddatblygu'

Dywedodd y cyngor fod nifer y ceisiadau ddaeth i law yn destun pryder a'u bod yn trafod newidiadau posibl i'w polisi tyrbinau gwynt.

Yn ôl arweinydd yr awdurdod, y Cynghorydd Brian Owen: "Does neb synhwyrol eisiau gweld tyrbinau gwynt ymhob rhan o'r ynys.

"Rhaid i ni edrych ar y ceisiadau yma'n rhesymol a thrin pob cais yn ôl ei rinwedd ei hun felly.

"Mae'n bosib cael ffermydd gwynt allan yn y môr ... rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â gor-ddatblygu gyda'r tyrbinau gwynt yma."

'Lleiafrif bach'

Dywedodd Owain Evans, llefarydd ar ran Ynys Môn Yn Erbyn Tyrbinau Gwynt: "Rwy'n meddwl ein bod ni'n rhoi'r neges drosodd i'r cynghorwyr nad ydi hyn ddim yn dderbyniol.

"Dydyn ni ddim angen datblygu'r tyrbinau anferth yma yng nghefn gwlad Ynys Môn - fe fydd yn effeithio ar ein heconomi mi, mi fydd yn effeithio ar ein tirlun ni ac mi fydd hefyd yn effeithio ar y bobl yma.

"Dydyn ni ddim yn erbyn tyrbinau bach ar dir fferm ac ati - tyrbinau o lai na 15 metr sy'n disgyn o fewn y polisi cynllunio, ond mae'r teimlad yn gryf a lleiafrif bach iawn sydd o blaid y tyrbinau anferth yma."

Os nad yw polisi'r cyngor yn newydd yn sylweddol, meddai, fe fydd yr ymgyrchu'n parhau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol