Cofio cyfraniad Betsi Cadwaladr yn Rhyfel y Crimea
- Cyhoeddwyd
Bydd gwasanaeth coffa er cof am nyrs enwocaf Cymru, a weithiodd gyda Florence Nightingale yn Rhyfel y Crimea, yn cael ei gynnal.
Mae Betsi Cadwaladr, a anwyd yn Y Bala, wedi cael ei mabwysiadu yn arwres nyrsio gan Goleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru am ei gwaith.
Mae ei henw wedi'i fabwysiadu hefyd gan fwrdd iechyd Gogledd Cymru.
Mae'r ddau sefydliad wedi cydweithio i drefnu'r gwasanaeth ym mynwent Parc Abney yn Llundain lle cafodd ei chladdu ym 1860.
Teiffoid
Ganed Elizabeth Davis, yn Llanycil, ger Y Bala yn 1789 ac roedd yn ferch i bregethwr Methodist.
Ond roedd hi'n awyddus iawn i weld y byd ac yn 14 oed aeth i Lerpwl i weini.
Cafodd gyfle i weld y byd fel morwyn a chynorthwywraig i gapteiniaid llong a'u teuluoedd cyn setlo yn Llundain a hyfforddi i fod yn nyrs.
Ar ôl darllen am ddioddefaint milwyr Prydain yn Rhyfel y Crimea, llawer ohonyn nhw'n marw o deiffoid ac anafiadau, penderfynodd ymuno â'r gwasanaeth nyrsio milwrol i ofalu amdanyn nhw.
Er iddi weithio efo Nightingale ei hun am gyfnod, doedd hi ddim yn rhy hoff o'i dulliau disgybledig haearnaidd.
Symudodd Betsi i reng flaen rhyfel y Balaclafa ac yno yr enillodd enw iddi'i hun am anwybyddu awdurdod er mwyn gwneud yn siŵr bod y milwyr yn derbyn cyflenwadau.
Gadawodd ei gwaith pan ddirywiodd ei hiechyd a bu farw yn 1860.
Bydd ei gwaith a'i bywyd yn cael eu dathlu yn ystod y gwasanaeth coffa ac y bydd carreg goffa a mainc yn cael eu cysegru er cof amdani.
'Bedd dienw'
Yr Athro Donna Mead, Deon Adran Iechyd, Chwaraeon a Gwyddoniaeth Prifysgol Morgannwg, sy'n gyfrifol am y syniad am y gwasanaeth coffa.
"Roedd Betsi Cadwaladr a Florence Nightingale yn wahanol iawn am fod Nightingale yn parchu rheolau a biwrocratiaeth, yn wahanol i Betsi, oedd yn ymateb heb oedi i ofynion milwyr oedd wedi'u hanafu.
"Ond yn y pen draw fe wnaeth Nightingale barchu gwaith diflino Betsi i ddarparu gofal ar gyfer ei chleifion."
Dywedodd Yr Athro Mead fod Cadwaladr yn fwy na 60 mlwydd oed pan deithiodd i Balaclafa a bod ei gwaith caled yn yr ysbyty ar faes y gad wedi cyfrannu at ei marwolaeth.
"Cafodd Betsi ei chladdu mewn bedd dienw," meddai'r Athro Mead.
"Mae'r gwaradwydd o gael ei chladdu'n dlotyn yn dorcalonnus yn enwedig am fod Betsi wedi talu pris mor uchel am ei gwaith caled ac ymroddiad yn Balaclafa."