Lansio ymgyrch i atal strôc a chlefyd siwgr
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o fudiadau'n lansio ymgyrch i ddod o hyd i'r un o bob deg o bobl yng Nghymru sy'n wynebu'r risg o ddatblygu clefyd siwgr neu gael strôc yn ddiweddarach.
Diabetes UK Cymru, y Gymdeithas Strôc, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Fferylliaeth Gymunedol Cymru a'r saith bwrdd iechyd sydd wedi dod ynghyd i lansio'r ymgyrch.
Caiff asesiadau risg eu cynnig am ddim ym mhob fferyllfa yn y wlad - cyfanswm o 714 ohonyn nhw.
Bydd yr ymgyrch 'Un o Bob Deg' am bythefnos o Fedi 3 eleni.
'Lleihau'r tebygolrwydd'
"Mae'n bwysig iawn bod pobl yn gwybod eu risgiau - mae 11,000 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn yng Nghymru", meddai Ana Palazon, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru.
"Gellir atal llawer o strôcs. Unwaith y byddwch yn gwybod eich bod yn wynebu risg, mae digon o bethau y gallwch eu gwneud i leihau'r tebygolrwydd y byddwch yn cael strôc fel newid deiet, rhoi'r gorau i smygu ac yfed llai".
Y llynedd, mewn ymgyrch fferyllol a ganolbwyntiodd ar glefyd siwgr yn unig, cafodd 17,500 o bobl eu hasesu.
Roedd 8.4% yn wynebu risg uchel o ddatblygu'r cyflwr ac roedd 24% yn wynebu risg gynyddol.
Cynigir yr asesiadau risg mewn fferyllfeydd a dim ond ychydig funudau y maen nhw'n para.
Dywedodd Dai Williams, cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: "Amcangyfrifir bod 350,000 o bobl yng Nghymru nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn wynebu risg uchel o gael clefyd siwgr Math 2.
'Torri tir newydd'
"Os gall yr ymgyrch hon ddod o hyd i gyfran fach hyd yn oed bydd yn werthfawr oherwydd fel strôc, mae cysylltiad agos rhwng clefyd siwgr a ffordd o fyw.
"Os ydych yn gwybod beth yw eich risg, gallwch gymryd camau i sicrhau dyfodol iachach".
Bydd pobl sy'n wynebu risg naill ai yn cael llythyrau cyfeirio at eu meddygon teulu neu'n cael eu cynghori i sôn am eu statws wrth eu meddyg teulu.
Caiff pawb wybodaeth am sut i leihau eu risg o gael strôc a chlefyd siwgr.
"Nid yw cael strôc neu glefyd siwgr yn rhan annatod o fynd yn hŷn", meddai'r Athro Syr Mansel Aylward, cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
"Gan fod y cyflyrau yn rhannu llawer o'r un ffactorau risg a oherwydd gall clefyd siwgr gynyddu'r risg o strôc yn sylweddol, mae'n gwneud synnwyr cynnal yr ymgyrch ar y cyd hon sy'n torri tir newydd".
Gall pobl sy' ddim yn gallu mynd i'w fferyllfa leol gynnal asesiad risg , dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2012
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2011