Medal Aur i'r rhwyfwr Tom James
- Cyhoeddwyd
Roedd Tom James yn aelod o griw rhwyfo pedwar heb lywiwr Prydain enillodd fedal aur yn y Gemau Olympaidd fore Sadwrn.
James, 28 oed o Wrecsam, yw'r ail Gymro i ennill medal aur yn y Gemau yn Llundain 2012 wedi Geraint Thomas oedd yn aelod o dîm seiclo Prydain enillodd fedal aur yn y ras ymlid i dimau nos Wener.
Fel Thomas fe enillodd James fedal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.
Curodd James, Alex Gregory, Pete Reed ac Andrew Triggs Hodge criw Awstralia enillodd y fedal arian a chriw America wnaeth ennill y fedal efydd.
Curiad calon afreolaidd
Enillodd y criw mewn amser o 6 munud a 5:00 eiliad.
Dechreuodd James rwyfo wedi i anaf i'w ben-glîn ei orfodi i roi'r gorau i redeg.
Roedd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth y DU, Nick Clegg, ymhlith y cyntaf i dalu teyrnged i James ar wefan Twitter gan ddweud:"Anhygoel, llongyfarchiadau i Alex Gregory, Tom james, Peter Reed ac Andrew Triggs Hodge."
Dywedodd dirprwy brifathro Ysgol y Brenin yng Nghaer, lle bu James yn ddisgybl: "Tom James yn bencampwr Olympaidd (eto). Da iawn."
Dywedodd Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Carwyn Jones: "Llongyfarchiadau i Tom James am ennill ail fedal aur Cymru yn Llundain 2012 ac am ennill ei ail fedal aur yn y Gemau Olympaidd. Mae Cymru'n falch iawn am lwyddiant Tom."
James yw'r pumed Cymro i ennill mwy nag un fedal aur yn y Gemau Olympaidd gan ddilyn y nofiwr Paulo Radimilovic (1908-1920), y rhwyfwr Hugh Edwards (1932), y marchogwr Richrad Meade (1968-1972) a'r seiclwr Geraint Thomas (2008-2012).
Roedd James yn aelod o griw rhwyfo Caergrawnt enillodd y ras enwog ar y Tafwys yn 2007 wedi iddo fod yn aelod o'r tîm a gollodd y ras deirgwaith (2003, 2005 & 2006).
Fe gynrychiolodd Prydain am y tro cyntaf yn 19 oed yn 2003, gan ennill medal efydd ym Mhencampwriaeth y Byd y flwyddyn honno fel rhan o'r criw wyth.
Enillodd fedal efydd arall gyda'r wyth yn 2007.
Cafodd James wybod bod ganddo guriad calon afreolaidd ar ddechrau 2012, ond mae'n dweud bod y cyflwr o dan reolaeth wedi iddo gael triniaeth.
Wedi Gemau Olympaidd Beijing yn 2008, fe gafodd flwyddyn i ffwrdd, ac yna fe gollodd y rhan fwyaf o 2010 oherwydd anaf i'w gefn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2012
- Cyhoeddwyd4 Awst 2012
- Cyhoeddwyd2 Awst 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012