Galw am newid enw'r Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, wedi galw am newid enw'r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru.
Dywedodd Mr Davies ei bod yn bryd newid yr enw er mwyn cydnabod pwerau deddfu'r sefydliad yn dilyn refferendwm 2011.
Dywedodd Swyddfa Cymru nad oedd newid o'r fath yn flaenoriaeth, a dywedodd swyddogion yn Whitehall y byddai angen newid deddfau er mwyn newid yr enw.
Mae Mr Davies, arweinydd yr ail blaid fwyaf yn y Cynulliad, yn disgrifio'i hun fel "unoliaethwr balch", ac yn dweud nad yw ei alwad yn awgrymu y dylid cael mwy o wahanu rhwng Cymru a gweddill y DU.
'Gwobrwyo ffydd'
Ond dywedodd y byddai'r newid ond angen ychydig o newid i ddeddfwriaeth bresennol er mwyn dod i rym yn 2016, ac y byddai'n "ddatganiad am y sefydliad sydd bellach yn deddfu i'n cenedl falch".
Ychwanegodd Mr Davies, Aelod Cynulliad Canol De Cymru: "Drwy bleidleisio am bwerau deddfu y llynedd, mae pobl Cymru wedi troi'r Cynulliad yn senedd mewn popeth ond enw.
"Mae'n bryd i ni nawr wobrwyo eu ffydd yn ein sefydliad a chydnabod mai yma y mae deddfau'n cael eu creu - dylai'r teitl 'senedd' fodoli, mae hynny'n synnwyr cyffredin.
"Byddai hefyd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng y cynulliad fel sefydliad a Llywodraeth Cymru yn fwy clir, a byddai'n rhoi ein sefydliad datganoledig yn ei le priodol ochr yn ochr â chyrff deddfu cenedlaethol eraill."
'Enw yn bwysig'
Ychwanegodd na fyddai angen ail-frandio drud na mwy o wleidyddion, ond fe fyddai newid yr enw yn gydnabyddiaeth syml o aeddfedrwydd y broses ddatganoli.
Meddai: "Bydd rhai yn dweud mai dim ond newid enw yw hyn, ond rwy'n credu bod enw yn bwysig."
Cafodd y Cynulliad ei sefydlu yn 1999, ond doedd dim modd creu deddfau tan 2007.
Ond yna rhwng 2007 a 2011 roedd rhaid cael caniatâd o San Steffan i greu deddfau mewn proses gafodd ei disgrifio fel un araf a llafurus.
Ers Mai 2011, mae gan y Cynulliad y pŵer i greu deddfau yn yr 20 o faterion sydd wedi eu datganoli - iechyd, addysg ac amaethyddiaeth er enghraifft - heb gyfeirio at San Steffan.