Llawenydd wrth i Jade ennill medal aur

  • Cyhoeddwyd
Jade JonesFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Jade Jones yw aelod ieuengaf tîm Prydain i ennill medal aur yng ngemau 2012.

Mae Jade Jones o'r Fflint wedi derbyn negeseuon yn ei llongyfarch wedi iddi ennill medal aur yng nghystadleuaeth Taekwondo'r Gemau Olympaidd.

Mae'r Post Brenhinol wedi argraffu stamp yn ei hanrhydeddu ac yn paentio blwch post yn Y Fflint yn aur wedi iddi ennill ei medal ddydd Iau.

Hi yw aelod ieuengaf tîm Prydain i ennill medal aur yng ngemau 2012.

Bu cannoedd o'i chefnogwyr yn dathlu yng nghlwb cymdeithasol ei thref enedigol wedi ei buddugoliaeth.

'Mor hapus'

Dywedodd ei thad, Gary Jones: "Dwi mor hapus. Roeddwn i mor ofnus ac mor nerfus."

Bu Mr Jones yn cefnogi Jade yn arena Excel yn Llundain a dywedodd ei bod wedi ei syfrdanu.

"Dwi mor flinedig ar ôl ei gwylio. Gallai ddim dychmygu sut mae hi'n teimlo.

"Galla i ddim aros i weld y blwch post wedi ei baentio'n aur - mae'n wallgo'."

Bu cefnogwyr Ms Jones yn gwylio ei chystadlaethau ar sgrin fawr yng nghlwb cymdeithasol yn Y Fflint.

Dywedodd ei hewythr, Jeffrey Jones, 42: "Mae'n wych. Rydyn ni wedi cael diwrnod hyfryd ac rydyn ni'n falch iawn ohoni."

Mae Ms Jones hefyd wedi derbyn teyrngedau gan gefnogwyr newydd gan gynnwys y cyflwynydd Lorraine Kelly a ddefnyddiodd Twitter i'w llongyfarch.

'Yn falch dros ben'

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Llongyfarchiadau mawr i Jade Jones wrth iddi ennill trydedd fedal aur i Gymru.

"Jade yw athletwraig gyntaf Cymru i ennill medal aur yn Llundain 2012 a'r cyntaf i ennill medal unigol. Dylai hi fod yn falch dros ben o'i llwyddiant."

Dywedodd Lyn Leigh, rheolwr y clwb cymdeithasol yn Y Fflint, bod mwy na 1,000 o bobl wedi ymgynnull er mwyn cefnogi Ms Jones a bod llawer ohonynt wedi ei chefnogi am flynyddoedd ac wedi helpu drwy godi arian iddi cyn iddi sicrhau cyllid chwaraeon.

"Roedd yn ddiwrnod syfrdanol i bawb yn Y Fflint," meddai.

"Dwi ddim yn credu y cafodd lawer o waith ei wneud yn Y Fflint ddoe."

Dywedodd Sandy Mewies, Aelod y Cynulliad ar gyfer Delyn: "Mae'r gefnogaeth i Jade yn Y Fflint wedi bod yn wych ac mae pobl yn awyddus i'w chroesawu adref a gweld y fedal.

"Mae hi'n wir yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc ar draws y wlad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol