Dau gomisiynydd Cyngor Sir Ynys Môn i adael?
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall y gallai dau o'r pum comisiynydd gafodd eu penodi gan Lywodraeth Cymru i reoli Cyngor Sir Ynys Môn adael cyn diwedd y flwyddyn.
Cafodd Gareth Jones a Margaret Foster eu penodi'n gomisiynwyr er mwyn delio gyda methiannau'r cyngor yn gorfforaethol.
Ni chafwyd unrhyw reswm swyddogol am yr ymadawiad.
Ond cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, yn gynharach eleni y byddai'r ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru, a ddechreuodd ym mis Mai 2011, yn cael ei raddol lacio.
Addysg
Fis diwethaf, cafodd gwasanaeth addysg Cyngor Sir Ynys Môn ei feirniadu'n hallt gan yr Arolygaeth Addysg, Estyn.
Argymhelliad Estyn oedd bod sefyllfa addysg y sir cynddrwg, fel bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb uniongyrchol am y gwasanaethau addysg.
Wrth ymateb i gynnwys adroddiad Estyn ar y pryd, dywedodd cyn-arweinydd y cyngor, Clive McGregor, y gallai'r adroddiad "fod yn hoelen arall yn nyfodol y cyngor sir".
Dywedodd Mr McGregor hefyd, pe bai cynghorydd yn hytrach na chomisiynydd wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaethau addysg, yna mi fyddai'r cynghorydd wedi gorfod ymddiswyddo.
Cafodd y gwasanaethau cymdeithasol hefyd eu beirniadu dro yn ôl am fod yr Arolygaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol o'r farn fod safon gwasanaethau plant y cyngor lawer yn is na'r disgwyl.
Ond does dim i awgrymu bod cysylltiad rhwng ymadawiad posib Mr Jones a Ms Foster - â'r adroddiadau beirniadol hynny.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Cyhoeddodd y Gweinidog dros Llywodraeth Leol ym mis Mai ei fod yn gobeithio lleihau'r ymyrraeth yng Nghyngor Môn o fis Hydref ymlaen os oedd y gwelliannau'n parhau.
"Fel rhan o hynny dywedodd y byddai'n anhebygol y byddai angen pum comisiynydd petai'r ymyrraeth yn llai. Dyna yw'r achos o hyd. Does dim penderfyniadau wedi eu gwneud a does yna'r un comisiynydd wedi gadael.
"Cafodd pob un o'r Comisiynwyr eu penodi i ddelio â methiannau'r Cyngor yn gorfforaethol, nid i reoli gwasanaethau penodol. Byddai unrhyw newidiadau'n adlewyrchu rôl llai amlwg i'r comisiynwyr wrth gwblhau'r dasg honno."
Mae disgwyl i'r llywodraeth wneud datganiad pellach ynglŷn â'r sefyllfa yn yr hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012