Hwb i'r ymgyrch am forglawdd Hafren
- Cyhoeddwyd
Mae David Cameron wedi gorchymyn ei swyddogion i ystyried cynllun gwerth £30 biliwn i godi morglawdd ar draws aber Afon Hafren.
Daw'r cyhoeddiad, sy'n cael ei weld fel hwb i'r cynllun, yn dilyn cyfarfod rhwn Mr Cameron a Peter Hain a adawodd ei swydd fel llefarydd Llafur dros Gymru i ofalu am y cynllun.
Dywed cefnogwyr y cynllun, a fydd yn ymestyn o Fro Morgannwg i Wlad yr Haf, y byddai'n darparu 5% o drydan y DU ac yn creu miloedd o swyddi.
Ond mae grwpiau amgylcheddol yn gwerthwynebu'r cynllun gan ddweud y bydd yn niweidiol i fywyd gwyllt yn lleol.
Deellir y byddai llawer o'r cyllid ar gyfer y cynllun yn dod o wledydd Kuwait a Qatar.
'Calonogol'
Dywedodd Mr Hain wrth BBC Cymru: "Fe gawsom gyfarfod da iawn, ac mae'r prif weinidog wedi addo edrych i mewn i'r peth.
"Roedd yn gyfarfod llawer mwy buddiol na'r disgwyl. Mae'n galonogol bod Rhif 10 yn rhoi ystyriaeth llawer mwy difrifol i'r morglawdd na sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diweddar.
"Mae cefnogaeth y llywodraeth yn gwbl hanfodol er mwyn i'r cynllun symud ymlaen.
"Ni fydd angen ceiniog o arian y trethdalwr ar gyfer y buddsoddiad £30 biliwn yma a fydd yn trawsnewid Cymru.
"Bydd yn creu 20,000 o swyddi adeiladu, a 30,000 arall mewn gweithgaredd o gwmpas y morglawdd."
Arian preifat
Roedd llywodraeth y DU wedi gwrthod y cynllun yn flaenorol wedi i astudiaeth ddangos y gallai'r gost fod hyd at £34 bn - mwy na dwywaith yr amcangyfrif gwreiddiol.
Ond y llynedd fe wnaeth consortiwm Corlan Hafren gyflwyno cynllun busnes i'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn amlinellu cynllun newydd - cynllun a fyddai'n dibynnu'n llwyr ar arian y sector preifat.
Bydd y cynllun newydd yn cynhyrchu trydan ar lanw a thrai, ac yn cynnwys 800 o dyrbinau ychwanegol.
Dywed y consortiwm y byddai hwn yn fwy buddiol yn amgylcheddol gan leihau'r risg o lifogydd.
Ond mae gan y cynllun wrthwynebwyr. Ym mis Mai dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB eu bod "am weld corlannu grym y llanw yn yr Hafren, ond nid ar draul bywyd gwyllt pwysig sydd wedi 'i warchod".
"Byddwn yn cefnogi technolegau all wneud hyn, ond fe fyddai morglawdd confensiynol yn drychineb amgylcheddol ac yn groes i reolau cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear y byddai corlannu ynni'r llanw yn "hanfodol bwysig" ond mai'r cynllun arbennig yma oedd "yr ateb anghywir".
"Byddai rhoi'n hymdrechion i gyd i'r un cynllun yma yn atal posibiliadau eraill ynghyd â'r twf mewn swyddi a thechnoleg y gallai'r rhain gynhyrchu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd14 Mai 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012