Pryder am forglawdd ar draws Môr Hafren
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn rhybuddio y gallai cynllun i adeiladu morglawdd ar draws aber yr Hafren achosi niwed amgylcheddol.
Yn ôl gwrthwynebwyr mae yna ddulliau mwy effeithiol o gorlannu egni o'r afon.
Daw'r sylwadau ar ôl iddi ddod i'r amlwg ddoe bod y Prif Weinidog, David Cameron, wedi galw ar aelodau'r llywodraeth i ail-ystyried y cynllun gwerth £30 biliwn.
Fe roddwyd y gorau i'r cynlluniau gwreiddiol yn 2010.
Ond nawr mae David Cameron wedi gorchymyn ei swyddogion i ystyried y cynllun unwaith eto.
Daeth y cyhoeddiad, sy'n cael ei weld fel hwb i'r cynllun, yn dilyn cyfarfod rhwng Mr Cameron a Peter Hain a adawodd ei swydd fel llefarydd Llafur dros Gymru i ofalu am y cynllun.
Dywed cefnogwyr y cynllun, a fydd yn ymestyn o arfordir Bro Morgannwg i Wlad yr Haf, y byddai'n darparu 5% o drydan y DU ac yn creu miloedd o swyddi.
Ond mae grwpiau amgylcheddol yn gwrthwynebu'r cynllun gan ddweud y bydd yn niweidiol i fywyd gwyllt yn lleol.
Mae RSPB Cymru eisoes wedi datgan y byddai morglawdd traddodiadol yn "drychineb amgylcheddol" ac y byddai o bosib yn torri cyfarwyddyd cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Cyfeillion y Ddaear yn honni y byddai technolegau eraill yn "llai niweidiol".
Dywedodd Mr Hain, AS Castell-nedd wrth BBC Cymru y byddai'r cynllun newydd yn lleihau'r peryg o lifogydd ond cyfaddefodd fod pryderon ynghylch yr effaith ar fywyd gwyllt.
"Mae gan yr RSPB cwestiynau difrifol sydd angen eu hateb," meddai.
"Rydym hefyd wedi cyfarfod â physgotwyr i drafod y mater ac mae eu pryderon yn cael eu trafod o ran creu math gwahanol o dyrbin a ffurfweddau eraill fydd yn gwneud y cynllun yn fwy cyfeillgar i bysgod ac adar."
Ychwanegodd Mr Hain y byddai'r consortiwm yn cyfarfod â grwpiau amgylcheddol yn ystod cyfarfod deiliaid sydd â diddordeb yn y cynllun fydd yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnosau nesaf.
"Bydd manylion llawn yn cael eu cyhoeddi pan fydd y consortiwm yn hyderus y bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi'r cynllun, o leiaf mewn egwyddor," meddai Mr Hain.
Deellir y byddai llawer o'r cyllid ar gyfer y cynllun yn dod o wledydd Kuwait a Qatar.
Roedd llywodraeth y DU wedi gwrthod y cynllun yn flaenorol wedi i astudiaeth ddangos y gallai'r gost fod hyd at £34 bn - mwy na dwywaith yr amcangyfrif gwreiddiol.
Ond y llynedd fe wnaeth consortiwm Corlan Hafren gyflwyno cynllun busnes i'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn amlinellu cynllun newydd - cynllun a fyddai'n dibynnu'n llwyr ar arian y sector preifat.
Bydd y cynllun newydd yn cynhyrchu trydan ar lanw a thrai, ac yn cynnwys 800 o dyrbinau ychwanegol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd14 Mai 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012