Cynlluniau ar gyfer gorsaf drydan newydd yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Terfynfa South Hook
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd terfynfa South Hook yn 2009

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer gorsaf drydan newydd yn Sir Benfro.

Un safle dan ystyriaeth yw un o fewn ffiniau'r parc cenedlaethol.

Mae Qatar Petroleum, Exxon Mobil a Total Gas and Power Ventures eisiau adeiladu gorsaf nwy newydd 500mw y drws nesaf i derfynell nwy South Hook ar gyrion Aberdaugleddau.

Mae 'na ddau safle dan ystyriaeth yno.

Mae un o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a'r llall y tu allan i'r parc.

Dywedodd llefarydd ar ran Prosiect CHP South Hook nad oes 'na benderfyniad wedi ei wneud.

"Ar hyn o bryd, safleoedd posib yw'r rhain," meddai.

Arolygiaeth Gynllunio

"Fe fydd 'na drafodaeth gyda'r awdurdodau perthnasol.

"Mae'n anaddas i ni wneud unrhyw sylw pellach," ychwanegodd.

Gwarchod y tirlun yw un o brif swyddogaethau'r parc.

Ond nid y Parc fydd yn penderfynu ar y cais.

Fe fydd y mater yn cael ei benderfynu gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Fe fydd angen cyfiawnhad pendant os bydd yr orsaf newydd o fewn ffiniau'r Parc, yn ôl un o uwch-swyddogion yr awdurdod.

Mae amgylcheddwyr yn galw am ddefnyddio technoleg fwy effeithiol yn yr orsaf newydd o gymharu â'r hyn sydd yng ngorsaf Penfro.

Mae disgwyl i'r cais gael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd.

Terfynfa South Hook yw'r mwya' o'i bath yn Ewrop.

Fe wnaeth agor yn 2009 ar ôl chwe blynedd o gynllunio ac adeiladu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol