Ail bwerdu newydd i dde Penfro?
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi bod yn ystyried cynnwys adroddiad ar y posibilrwydd o godi ail orsaf bŵer newydd yn ardal Aberdaugleddau.
Bwriad tri chwmni, Qatar Petroleum, Exxon Mobil a Total Gas and Power Ventures, yw cyflwyno cais cynllunio manwl y flwyddyn nesaf i godi gorsaf newydd.
Yn ôl y cwmnïau maen nhw'n awyddus i dodi gorsaf drydan ger terfynnell South Hook.
Fel rhan o'r broses cynllunio mae'r cwmniau yn gorfod cyflwyno adroddiad am effaith amgylcheddol unrhyw orsaf newydd.
Ddydd Mawrth bydd aelodau awdurdod y parc yn cael gweld ymateb cychwynnol swyddogion i'r syniad o leoli'r orsaf o fewn ffiniau'r parc.
Mae'r adroddiad yn nodi y byddai'n rhaid cael cyfiawnhad pendant dros leoli gorsaf o fewn ffiniau'r parc - a hynny yn nhermau budd cenedlaethol.
Mae gorsaf bŵer nwy RWe NPower yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd ar gyrnion tre Penfro ar gost o £1 biliwn.
Dywed y tri chwmni eu bod yn bwriadu adeiladu gorsaf fydd yn llawer llai gwastraffus o ran gwres na'r un ym Mhenfro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011