Un o bob deg yn camddefnyddio llefydd parcio anabl

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Bathodyn GlasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch newydd i daclo camddefnyddio'r bathodynnau a llefydd parcio

Mae un o bob deg gyrrwr yng Nghymru yn cyfadde' eu bod yn parcio mewn llefydd sydd wedi eu clustnodi i bobl anabl.

Mae'r arolwg wedi canfod bod cymaint ag un o bob pedwar mewn rhai ardaloedd yn defnyddio lle parcio sydd ar gyfer deiliaid bathodyn glas yn unig.

Dywedodd Simon Richardson, enillydd medal aur yn y Gemau Paralympaidd am seiclo, ei fod yn amseru ymweliadau i'r archfarchnad er mwyn sicrhau y bydd ganddo le parcio anabl ar gael iddo.

Dywedodd ei fod yn canfod rhywun sydd heb fathodyn glas mewn lle parcio anabl o leiaf unwaith bob wythnos.

Mae Mr Richardson yn byw ym Mhorthcawl yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe ddywed yr arolwg mai dyma un o'r ardaloedd gwaethaf am gamddefnyddio llefydd parcio gydag un o bob pedwar yn cyfadde' i'r drosedd.

Dywed yr arolwg o dros 1,000 o bobl ar draws Cymru mai pobl rhwng 45 a 55 oed oedd y troseddwyr gwaethaf.

Comisiynwyd yr arolwg gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymgyrch i daclo 'Gwylliaid y Gofod' sydd naill ai'n defnyddio bathodyn glas yn dwyllodrus neu yn parcio mewn lle sydd wedi ei glustnodi ar gyfer deiliaid y bathodynnau glas.

Mae cynghorau ar draws Cymru yn cyflwyno bathodynnau o fath newydd sy'n cael eu cysylltu gyda chofrestr o ddefnyddwyr cymwys yn y DU, gan ei gwneud yn haws i heddluoedd a wardeniaid parcio i wirio bod y bathodyn yn cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon.

Anwybyddu

Dangosodd yr arolwg bod bron 70% yn credu nad oedd cyfiawnhad i barcio mewn llefydd anabl, ond roedd 6% yn dadlau bod hynny'n dderbyniol os oedd rhywun ar frys neu ond am aros am ychydig funudau.

"Nid yw'r bathodynnau glas yn cael eu plismona'n ddigonol," meddai Mr Richardson.

"Mae arwydd i ddweud wrth bobl am beidio gwneud, ond yn amlwg dyw hynny ddim yn poeni rhai.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cytunodd y Fonesig Tanni Grey-Thompson bod camddefnyddio llefydd parcio i bobl anabl yn broblem

"Mae'n rhaid i ni strwythuro'n bywydau o gwmpas medru cael lle parcio."

Bydd Mr Richardson yn tanio'r crochan Paralympaidd yng Nghaerdydd ddydd Llun, ac yn cario'r fflam Olympaidd yn Llundain ddydd Mercher.

Fydd o ddim cystadlu yn y Gemau yn Llundain wedi i gar ei daro ym mis Awst y llynedd ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r Fonesig Tanni Grey-Thompson, yr athletwraig Baralympaidd fwyaf llwyddiannus erioed, wedi cefnogi'r ymgyrch i geisio creu mwy o barch tuag at hawliau gyrwyr anabl.

"Mae'r camddefnydd o'r system yn sicr yn broblem, ac mae angen i bethau newid," meddai.

"Rwy'n credu bod y broblem wedi gwaethygu ac yn digwydd yn ehangach dros y blynyddoedd. Mae pobl yn twyllo'r system."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol