Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddangos portread o Shane Williams
- Cyhoeddwyd
Bydd portread o'r seren rygbi Shane Williams yn ymuno â chasgliad celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Paentiwyd ei bortread gan yr artist David Griffiths, sydd wedi portreadu rhai o wynebau mwyaf amlwg Prydain mewn gyrfa o 40 mlynedd.
Mae o hefyd wedi gwneud portreadau o dri cyn-Lywydd y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae Williams, 35 oed, wedi mwynhau gyrfa hir a llwyddiannus fel asgellwr i dîm Cymru a'r Gweilch ac ef yw prif sgoriwr ceisiadau Cymru.
Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol yn gynharach yn y flwyddyn.
Chwe mis
Peintiwyd y portread mewn olew ar gynfas 40 x 30 modfedd dros gyfnod o chwe mis.
Mae'n dangos yr asgellwr yn gwisgo ei git rygbi ar gyfer ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Awstralia ym mis Rhagfyr 2011.
Magwyd yr artist ym Mhwllheli ac fe'i hyfforddwyd yn ysgol gelf Slade yn Llundain.
Daeth i'r amlwg am ei bortread o Dywysog Cymru yn derbyn rhyddid dinas Caerdydd ym mlwyddyn ei arwisgiad yn 1969.
Ers hynny mae wedi darlunio gwleidyddion, clerigwyr a mabolgampwyr amlwg gan gynnwys Enoch Powell, Archesgob Cymru Barry Morgan a'r chwaraewr rygbi, Barry John.
Dadorchuddiwyd dau bortread pwysig arall o'i waith yn ddiweddar; portreadau o gyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.
Mae un wedi ei gadw yn adeilad y Pierhead ger Y Senedd ym Mae Caerdydd a'r llall yn y Llyfrgell Genedlaethol.
'Eiconic'
"Mae gen i ddiddordeb mawr mewn rhagoriaeth ac mae Shane, fel nifer o'r wynebau eraill rwyf wedi eu peintio wedi rhagori yn ei faes - mae'n bersonoliaeth chwaraeon eiconic," meddai'r artist, sy'n byw yn ardal Y Rhâth, Caerdydd
Yn ôl Paul Joyner, Pennaeth Derbyn Archifau a Chelf Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Mae gan y portread yma bresenoldeb.
"Mae'n gwneud i chi deimlo fel bod Shane newydd gerdded i mewn i'r ystafell a'i fod yn barod i chwarae gêm arall i Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2012