Gordewdra: Problemau Cymru 'bron fel America'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd nad oes digon o adnoddau yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i roi triniaeth i bobol ordew.
Dywedodd Doctor Nadim Haboubi fod y sefyllfa yn waeth yng Nghymru nag yng ngweddill Prydain ac y bydd yn debyg i'r sefyllfa yn America.
Mae'n rhoi triniaeth i gleifion gordew a dywedodd fod y sefyllfa yng Nghymru ymhlith y rhai gwaethaf yn y byd gorllewinol.
Roedd prinder adnoddau, meddai, yn golygu nad oedd miloedd yn cael llawdriniaeth hanfodol na chymorth yn y gymuned.
Ychwanegodd fod y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn ymyrryd yn gynharach i rwystro problemau cysylltiedig fel clefyd y siwgr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod byrddau iechyd yn penderfynu lle i ganolbwyntio adnoddau.
Bob blwyddyn mae delio gyda gordewdra yn costio tua £73 miliwn i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
'Yn enfawr'
Yn ôl Dr Haboubi, Cadeirydd Grŵp Llywio Fforwm Gordewdra Cenedlaethol Cymru, roedd y broblem yn "enfawr, yn waeth nag yn Lloegr, yn waeth nag unrhyw le yn y DU ...
"Mae'n debyg mai yn Unol Daleithiau America y mae'r broblem ar ei gwaethaf ond dydyn ni ddim ymhell ar eu holau", meddai.
Ar hyn o bryd dim ond un clinig gordewdra sy' yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Dywedodd Dr Haboubi mai dim ond 50 o gleifion gordew oedd yn cael llawdriniaeth bob blwyddyn yn Sefydliad Llawdriniaeth Gordewdra Cymru yn Nhreforys er mwyn lleihau stumog neu leihau faint o galorïau yr oedden nhw'n eu bwyta.
5,000
Mae hyn er gwaetha'r ffaith bod tua 5,000 angen y llawdriniaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod tua 50 o gleifion, yn bennaf o'r de, yn cael eu cyfeirio yn flynyddol at y sefydliad ond bod cleifion o'r gogledd yn cael llawdriniaeth yn Salford.
Dangosodd arolwg Sefydliad Iechyd y Byd fod Cymru'n bedwaredd allan o 39 o wledydd o ran plant 15 oed oedd yn ordew.
Dim ond America, Groeg a Chanada oedd yn waeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011