Llanymddyfri: Cwmni newydd wrth y llyw
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol breifat yn Sir Gâr gyda dyledion o hyd at £4 miliwn wedi ail-agor ddydd Llun.
Cwmni newydd sy'n rheoli Coleg Llanymddyfri ar ôl i'r hen weinyddiaeth fynd i drafferthion ariannol mawr.
Pan gymerodd y cwmni newydd yr awenau ddechrau Awst clywodd y staff y bydden nhw'n cael cytundeb newydd.
Roedd hyn yn golygu hawlio tâl diswyddo o'r wladwriaeth gan nad oedden nhw wedi derbyn cyflog ers mis Mehefin.
Yn ôl y cwmni newydd, Coleg Llanymddyfri (Cymru), bydd 30% yn fwy o ddisgyblion yn yr ysgol baratoi.
£4m
Pan ddaeth y stori i'r amlwg ddiwedd Mehefin y gred oedd bod dyledion Coleg Llanymddyfri tua £2.2 miliwn.
Ond ym mis Awst datgelodd BBC Cymru fod y dyledion tua £4 miliwn.
Dywedodd Grant Thornton nad oedd yn debygol y byddai unrhyw gredydwyr - ar wahân i'r banciau a Thollau ei Mawrhydi - yn cael unrhyw arian yn ôl.
Yng Ngorffennaf penderfynodd mwy na 100 o rieni disgyblion gefnogi cynnig warden y Coleg, Guy Ayling, i gau'r cwmni oedd yn rheoli'r ysgol a ffurfio cwmni newydd.
Yn wreiddiol, cafodd y coleg ei sefydlu yn 1847.
Ymhlith cyn-athrawon a chyn-ddisgyblion mae'r hyfforddwr a'r chwaraewyr rygbi Carwyn James a'r chwaraewr rhyngwladol George North.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2012