Sir yn buddsoddi am fod 20% o ffyrdd 'mewn cyflwr gwael'
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg yn awgrymu bod bron 20% o ffyrdd Powys "mewn cyflwr gwael."
Dywedodd Uned Gwybodaeth Llywodraeth Leol fod 13.5% o ffyrdd Cymru mewn cyflwr gwael ac yng Ngwynedd roedd y safon orau, dim ond 6.4% yn y stad honno.
Mae Cyngor Powys wedi dweud eu bod yn buddsoddi £13m mewn ffyrdd yn ystod y blynyddoedd nesa'.
Mae Steve Holdaway, Pennaeth Gwasanaethau Amgylchedd y sir, wedi dweud: "Dylid cofio bod chwarter ffyrdd Cymru yn y sir ...
"Rydym yn sicr y bydd y buddsoddi'n gwella ffyrdd yn sylweddol yn ystod y ddwy flynedd nesa'."
15%
Yn yr arolwg ar gyfer ar gyfer 2011-12 roedd cynnal a chadw 15% o ffyrdd yng Ngheredigion, Sir Gâr a Wrecsam yn annerbyniol.
Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol yng Nghymru mai'r rheswm am gyflwr y ffyrdd oedd gaeafau llym.
Ym Mawrth roedd arolwg wedi dweud bod cynghorau Cymru a Lloegr y llynedd wedi gwario £90m ar drwsio 1.7 o dyllau.
Ac roedd adroddiad Cynghrair y Diwydiant Asffalt wedi dweud y byddai'n cymryd 10 mlynedd i drwsio'r holl dyllau.
Roedd yr arolwg, meddai'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, yn dangos bod perfformiad cynghorau wedi gwella.
Ond dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans o Sir Ddinbych, llefarydd y mudiad ar wella a pherfformiad: "Serch hynny, rydym yn cydnabod nad yw'r perfformiad cystal mewn rhai adrannau a dylai cynghorau fynd i'r afael â hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2012