Colli 150 o swyddi wrth i ffatri aerosol gau
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad y bydd ffatri aerosol ym Merthyr Tudful yn cau a 150 o swyddi'n cael eu colli.
Roedd ffatri Ardagh yn Abercanaid wedi'i chlustnodi i gau ym mis Mai, gyda'r gwaith cynhyrchu'n cael ei symud i Sir Nottingham a Norwich.
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori - gan gynnwys trafodaethau gydag undebau a Llywodraeth Cymru - cadarnhaodd y cwmni ddydd Llun y byddai'r safle yn cau.
Yn ôl Ardagh, byddan nhw'n gwneud popeth posib i gynnig gwaith i'w staff yn eu ffatrïoedd eraill yn y DU.
Meddai llefarydd ar ran y cwmni: "Rydym wedi cwblhau trafodaethau ar y cynigion a wnaed gan yr undeb (Unite) a staff eraill sydd ddim yn rhan o undeb, a'r penderfyniad oedd gwrthod y cynigion hynny.
"Rydym hefyd wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd o gynnal gwaith cynhyrchu ar y safle, ond doedd dim modd dod o hyd i ateb hirdymor derbyniol.
"Fel y nodwyd adeg y cyhoeddiad gwreiddiol, bydd Grŵp Ardagh yn gwneud popeth posib i ddod o hyd i gyfleoedd eraill yn safleoedd eraill y cwmni i'r 146 o weithwyr sy'n colli eu swyddi."
Mae'r cwmni, a sefydlwyd yn 1932 o dan yr enw Irish Glass Bottle Company, bellach yn cyflogi 15,000 o bobl mewn 25 o wledydd ar draws y byd.
Mae gan y cwmni ffatrïoedd eraill yn Yr Alban, Sir Efrog, Sir Nottingham a Norwich.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012