Cwmni: 146 o swyddi yn y fantol ym Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae bron 150 o swyddi ym Merthyr Tudful yn y fantol wedi i gwmni pecynnu gyhoeddi eu bod yn mynd i gau ffatri.
Dywedodd cwmni Ardagh eu bod wedi dechrau cyfnod ymgynghori oherwydd bwriad i gau'r ffatri ym Mharc y Ddraig, Abercannaid.
Y rheswm yw ail-strwythuro.
Y bwriad yw trosglwyddo cynhyrchu chwistrellau aerosol i ffatri arall yn Sir Nottingham.
'Cefnogi'
Yn ôl y cwmni, bydd hyn yn effeithio ar 146 o weithwyr ym Merthyr Tudful.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Bydd y cwmni yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r gweithlu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Os yw swyddi'n cael eu colli fe fyddwn yn adolygu cyfleoedd cyflogi newydd yn ein safleoedd cynhyrchu eraill."
Mae cwmni Ardagh yn cyflogi mwy na 14,000 mewn 88 ffatri mewn 25 gwlad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol