Gweinidog yn galw am ail raddio arholiadau TGAU Saesneg
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi gofyn am ail raddio papurau arholiadau TGAU Saesneg.
Daw hyn yn dilyn ffrae bod myfyrwyr wedi derbyn graddau is na'r disgwyl pan gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi fis diwethaf.
Roedd Leighton Andrews wedi galw am arolwg.
Mae o'n dweud fod yr arolwg wedi ei berswadio fod rhai cannoedd o fyfyrwyr wedi cael cam.
Mae penderfyniad Mr Andrews yn gwrthgyferbynnu â'r sefyllfa yn Lloegr, lle mae'r Gweinidog Addysg yno wedi gwrthod ymyrryd.
Nawr mae disgwyl y bydd rhai cannoedd o fyfyrwyr yn derbyn graddau uwch yng Nghymru.
Ymateb
Dywed undebau ATL (Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr ) a'r NAHT (Undeb y Prifathrawon) eu bod yn croesawu'r penderfyniad.
Fe wnaeth Mr Andrews gyhoeddi ei benderfyniad mewn datganiad ysgrifenedig yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Dywedodd: "Ar ôl ystyried yn ofalus, mae'r adroddiad yn fy arwain i'r casgliad fod angen ymateb ar frys i'r anghyfiawnder mae rhai cannoedd o fyfyrwyr wedi dioddef.
".... rwyf heddiw wedi gofyn i Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) i ail raddio TGAU Saesneg yn unol ag argymhellion yr adroddiad. "
Mae yna gais hefyd wedi ei wneud i Ofqual, y corff sy'n arolygu papurau yn Lloegr, i gymryd camau tebyg i fyfyrwyr sydd wedi eistedd arholiad CBAC yn Lloegr.
Eleni bu gostyngiad yn nifer y disgyblion wnaeth lwyddo i ennill A*-C TGAU Saesneg yng Nghymru, o 61.3% yn 2011 i 57.4%.
'Cydymdeimlo'
Doedd Cydbwyllgor Addysg Cymru ddim yn cadarnhau nac yn gwadu eu bod yn fodlon ail-raddio'r papurau arholiad, ond fe wnaethon nhw gyhoeddi datganiad sy'n dweud:
"Mae CBAC yn deall ac yn cydymdeimlo â'r gofidion a fynegwyd gan ymgeiswyr ac athrawon yng Nghymru a Lloegr yng nghyd-destun canlyniadau TGAU Saesneg yr haf ar draws y sefydliadau dyfarnu i gyd. Ein prif ddiddordeb, fel bob amser, yw sicrhau canlyniadau teg i'n holl ymgeiswyr.
"Yn ei adroddiad mis diwethaf, cadarnhaodd Ofqual bod y graddau a ddyfarnwyd yn Lloegr yn deg. Daeth adroddiad Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, i gasgliad gwahanol yng nghyd-destun yr un dyfarniadau.
"Fel darparwr pwysig o gymwysterau TGAU Saesneg yn y ddwy wlad, mae angen i CBAC dalu sylw i safbwyntiau'r ddau gorff rheoleiddio.
"Mae Llywodraeth Cymru ac Ofqual yn cyd-weithio ar ystod o faterion rheoleiddiol sy'n ymwneud â'r broses ddyfarnu yng Nghymru a Lloegr.
"Er enghraifft, yn 2012 roedd y ddau reoleiddiwr ar y cyd wedi mynnu ein bod ni'n gwneud ein dyfarniadau TGAU Saesneg Iaith yn fwy llym ar gyfer gradd C nag oeddem ni wedi awgrymu, trwy ofyn i ni newid ein ffiniau gradd.
"Mae adroddiad Llywodraeth Cymru heddiw yn cadarnhau bod CBAC, yn y dyfarniadau hyn, wedi gweithredu yn ôl yr Amodau Cydnabyddiaeth Cyffredinol sy'n gosod allan y ffyrdd y dylen ni weithredu, a hefyd ein bod wedi cydymffurfio â gofynion penodol y rheoleiddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon."
Addasrwydd y sustem
Wrth ymateb i gyhoeddiad y gweinidog, dywedodd Iestyn Davies ar ran y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru:
"Bydd trafodaethau am ail-farcio papurau arholiad yn newyddion da i fyfyrwyr siomedig, ond rhaid i hyn beidio tynnu'r sylw oddi wrth y mater sylfaenol, sef pa mor addas yw'r sustem gymwysterau yn ei ffurf bresennol i Gymru.
"Rydym yn ategu ein galwad ar Lywodraeth Cymru, drwy ei hadolygiad o gymwysterau i bobl 14-19 oed, i sicrhau bod cymwysterau yng Nghymru yn arfogi pobl ifanc Cymru ar gyfer y farchnad gyflogaeth, i gwrdd â gofynion cyflogwyr Cymru ac i gynyddu cystadleugarwch yn economi Cymru."
Roedd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn llawer mwy beirniadol, a dywedodd eu llefarydd ar addysg yng Nghymru, Angela Burns AC:
"Mae'r Gweinidog Addysg yn parhau i syfrdanu gyda'i helfa barhaus am benawdau.
"Rwy'n poeni bod yr ymyrraeth yma - sy'n groes i'r sefyllfa yn Lloegr - wedi cael ei wneud am resymau gwleidyddol yn unig.
"Er bod rhaid i les y disgyblion ddod yn gyntaf bob tro, rwy'n cwestiynu cymhelliad y gweinidog yn y cyhoeddiad yma heddiw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012