Carcharu dyn am lofruddio a threisio
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Abertawe cafodd dyn ei garcharu am oes am dreisio a llofruddio gwraig 67 oed.
Roedd Irene Lawless yn byw ar ei phen ei hun ym mhentref Llanllwni yn Sir Gaerfyrddin. Cafwyd hyd i'w chorff yn ei chartref ym mis Ionawr eleni.
Mewn gwrandawiad blaenorol, roedd Darren Martin Jackson, 26 oed ac yn wreiddiol o Gaint, wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau.
Gorchmynnodd y barnwr ddydd Llun y dylai dreulio lleiafswm o 28 mlynedd yn y carchar.
Gwyrdroëdig
Clywodd y llys fod Jackson wedi torri mewn i'w thŷ ar Ionawr 22 cyn ymosod yn rhywiol arni a'i thagu i farwolaeth.
Yna fe ddygodd ei bag a'i char cyn gyrru i Deal yng Nghaint lle cafodd ei arestio.
Fe gafodd lluniau o Jackson yn prynu petrol 20 munud i ffwrdd o safle'r llofruddiaeth eu dangos i'r llys.
Roedd wedi bod yn gwylio gwefannau pornograffig yn ymwneud â threisio menywod hŷn yn ystod yr wythnosau cyn y llofruddiaeth.
Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Royce fod ei llofruddiaeth wedi gadael ei theulu mewn sioc.
Wrth ddedfrydu Jackson i garchar am oes am y llofruddiaeth - a 12 mlynedd yr un yn cydredeg am dreisio - dywedodd: "Oherwydd eich meddwl gwyrdroëdig a llygredig, mae'n bur debyg na fyddwch fyth yn cael eich rhyddhau, gan dreulio gweddill eich bywyd yn y carchar.
"Fe fydd sawl un yn dweud fod hynny'n ddim llai na'ch haeddiant."
'Didostur'
Wedi'r achos dywedodd Iwan Jenkins o Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru: "Roedd hwn yn ymosodiad direswm a milain ar fenyw fregus a diamddiffyn.
"Mae'n iawn fod Jackson wedi cael dedfryd sylweddol o garchar am ei weithredoedd didostur.
"Roedd ymchwiliad cyflym a thrylwyr Heddlu Dyfed Powys wedi galluogi Gwasanaeth Erlyn y Goron i adeiladu achos cryf iawn yn ei erbyn yn gyflym, ac arweiniodd hyn at y diffynnydd yn pledio'n euog i lofruddiaeth.
"Gallwn ond gobeithio y gall teulu a chyfeillion Irene gael rhywfaint o gysur o'r ffaith nad oedd rhaid iddynt ddioddef straen achos llofruddiaeth, ond rydym yn ymwybodol iawn nad yw'r ddedfryd yn gwneud dim i leddfu colled aruthrol y rhai oedd yn agos at Irene, nac yn dod â hi'n ôl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012